Traddodwyd darlith Raymond Williams eleni gan gyn-fyfyriwr a graddedig er anrhydedd y Brifysgol Agored Dr Sabrina-Cohen Hatton.
Ar ôl cael ei gwneud yn ddigartref yn 15 oed, brwydrodd Sabrina yn erbyn rhagfarn a rhagdybiaethau, a daeth yn ddiffoddwr tân dair blynedd yn ddiweddarach. Yna aeth ymlaen i astudio am radd gyda'r Brifysgol Agored, cyn ennill ei doethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
Fel Prif Swyddog Tân yng Ngwasanaeth ac Achub Gorllewin Sussex, mae hi bellach yn un o ddiffoddwyr tân hynaf y DU, yn ogystal â bod yn seicolegydd ac yn awdur sawl llyfr.
Yn siarad yn Eglwys Norwyaidd Caerdydd, trafododd Sabrina sut y mae tlodi'n effeithio ar iechyd a lles, sut y gall rhagdybiaethau bennu’r dyfodol i lawer, a sut y gall addysg ddod yn arf yn erbyn gwrth-tlodi. Gan dynnu ar ei phrofiad ei hun o draw-effaith addygs, rhoddodd Sabrina glod i waith y Brifysgol Agored, Prifysgol Caerdydd, a'r Big Issue, y cylchgrawn a werthodd ar un adeg yng Nghasnewydd, ac y mae hi bellach yn llysgennad iddo.
Mae'r ddarlith hon yn ddigwyddiad blynyddol i gofio bywyd Raymond Williams, un o feddylwyr cymdeithasol mwyaf Cymru ac Ewrop. Fe'i trefnir gan Sefydliad Dysgu a Gwaith, a'i chefnogir gan y Brifysgol Agored yng Nghymru.
Cymerwch olwg ar yr erthygl OpenLearn hon ar fywyd Raymond Williams a Leonardo Sciascia, dau awdur a dealluswr nodedig, ill dau wedi'u geni ym 1921.
Ar ôl ei sgwrs, ymunodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells AS â Sabrina ar gyfer sesiwn holi ac ateb.
Dywedodd y Gweinidog:
“Roedd yn fraint bod yn rhan o Ddarlith Goffa Raymond Williams eleni. Mae taith eithriadol Dr Sabrina Cohen-Hatton o ddigartrefedd yng Nghasnewydd i Brif Swyddog Tân yn dangos yn gryf sut mae addysg yn llwybr gwirioneddol allan o dlodi. Fel Gweinidog dros Addysg Bellach ac Uwch, rwyf wedi ymrwymo i adeiladu system addysg sy'n cyrraedd pawb, yn enwedig y rhai sy'n wynebu'r heriau mwyaf. Credai Raymond Williams fod addysg yn creu gobaith - mae stori Dr Cohen-Hatton yn profi pam mae hyn yn bwysig”.
Credai Raymond Williams y gall addysg fod yn arf i helpu pobl allan o dlodi, sydd yn rhywbeth y gallaf ei dystio. Un o'r heriau mwyaf yw sut mae eraill yn ein gweld ni, a sut rydym ni'n ein gweld ni ein hunain. Byddwn yn aml yn dweud wrthym ni ein hunain na allwn ni ei wneud, a dyna pam ei bod hi mor hanfodol ein bod ni'n parhau i gael gwared ar rwystrau anweledig sy'n atal pobl rhag cyrraedd eu potensial.
Dr Sabrina Cohen-Hatton
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw