Mae cyflogwyr yng Nghymru’n parhau i wynebu prinder sylweddol mewn sgiliau - ond mae adroddiad newydd gan y Brifysgol Agored yn datgelu bod pobl ifanc yn barod i ddysgu ac eisiau cyfrannu.
Mae adroddiad newydd gan y Brifysgol Agored yn datgelu pellter cynyddol rhwng cyflogwyr yng Nghymru a’r genhedlaeth nesaf o weithwyr - un a allai fod yn atal cyflogwyr rhag mynd i’r afael â phrinder sgiliau cyson y wlad.
Mae’r ‘Baromedr Busnes: Sgiliau ar gyfer heddiw a’r dyfodol: sut all cyflogwyr gynllunio at sgiliau’r dyfodol’, yn arolwg ar dros 2,000 o arweinwyr sefydliadau yn y DU a 1,000 o oedolion Cenhedlaeth Z.
Yng Nghymru, arolygwyd 139 o arweinwyr sefydliadau ac 80 o oedolion Cenhedlaeth Z ac adroddwyd bod dros hanner (58%) o sefydliadau yn profi prinder mewn sgiliau ar hyn o bryd, y ganran uchaf o holl genhedloedd y DU. Ar yr un pryd, dim ond traean (31%) o’r sefydliadau hynny yng Nghymru sydd â mentrau penodol yn eu lle i recriwtio, dargadw neu hyfforddi pobl dan 25 oed.
Mae dros hanner (54%) o ymatebwyr Cenhedlaeth Z yng Nghymru yn ymwybodol o heriau sgiliau’r wlad ac maent yn rhoi ystyriaeth i hynny wrth feddwl am eu gyrfa - ond efallai nad ydynt yn cael yr arweiniad na’r cymorth sydd eu hangen arnynt i ddod yn wirioneddol barod am waith:
Mae’r bwlch hwn mewn disgwyliadau yn arbennig o frawychus yn ystod cyfnod lle mae sgiliau digidol, AI a chynaliadwyedd yn dod yn fwyfwy hanfodol. Tra mae bron i hanner o’r Genhedlaeth Z (40%) eisoes yn gweithio mewn AI neu gyda diddordeb ynddo, mae 20% o gyflogwyr yn dweud nad ydynt yn hyderus y gallant gyflawni eu strategaethau AI oherwydd prinder talent.
'Mae'r data’n glir: mae yna ddiffyg cyfatebiaeth rhwng bwriadau cyflogwyr a gweithredoedd ymarferol,' dywedodd Dr Scott McKenzie, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Dysgu, Sgiliau ac Arloesi. 'Ond, mae yna gyfle go iawn yma hefyd. Gall cyflogwyr ddechrau drwy greu cynlluniau sgiliau strwythuredig, gweithio gyda darparwyr addysg, buddsoddi mewn hyfforddiant hyblyg, ac agor cyfleoedd i ragor o dalent amrywiol. Y sefydliadau sy’n gweithredu nawr - sy’n cymryd dysgu o ddifri, ar bobl lefel - fydd y rhai a fydd yn ffynnu yn y blynyddoedd sydd i ddod.'
'Mae gan gyflogwyr gyfle anhygoel - a chyfrifoldeb - i lywio gweithlu’r dyfodol,' ychwanegodd Farwnes Martha Lane Fox CBE, Canghellor yn y Brifysgol Agored. 'Mae’r dalent allan yno. Mae pobl ifanc yn frwd, yn fedrus yn ddigidol, ac maent eisiau cyfrannu. Ond mae angen arnynt lwybrau hyfforddiant clir, cymorth ymarferol, a chyflogwyr sy’n fodlon buddsoddi.
'Er bod cyflogwyr yn wynebu heriau economaidd ar hyn o bryd, ni fydd y sefydliadau mwyaf doeth yn disgwyl i sgiliau gyrraedd - byddant yn eu meithrin, yn gynhwysol ac yn rhagweithiol, i sbarduno twf a chadernid.'
Tra mae penawdau byd-eang wedi cryfhau rhaniadau gwleidyddol sy’n ymwneud â pholisïau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, mae’r adroddiad yn datgelu cymorth parhaus ar gyfer cynhwysiant yn y DU. Mae’r data yn dangos bod 84% o gyflogwyr yn dweud bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn bwysig i'w sefydliad, wrth i 50% fod o’r farn y bydd yn dod yn hyd yn oed yn fwy pwysig dros y pum mlynedd nesaf.
Fodd bynnag, nid oes gan 23% fentrau ar waith ar gyfer grwpiau nad ydynt â chynrychiolaeth ddigonol neu sydd dan anfantais, gan gynnwys rhai sy’n dychwelyd, newidwyr gyrfa, a gweithwyr gydag anableddau neu gyflyrau niwroamrywiaeth. Mae hyn yn cyflwyno cyfle a gollwyd i ehangu’r gronfa dalent a lleihau segurdod economaidd - yn arbennig mewn sectorau a meysydd sy’n wynebu prinder difrifol mewn gweithlu.
Mae’r Baromedr Busnes wedi cadw golwg ar y prinder sgiliau am bron i ddegawd a thra mae’r gyfran o gyflogwyr sy’n wynebu prinder sgiliau wedi sefydlogi ers y llynedd, mae’r mater yn parhau’n eang ar draws sectorau a rhanbarthau. Mae’r bwlch sgiliau’n parhau’n un o’r materion mwyaf taer i sefydliadau yng Nghymru, gyda dros draean (38%) yn disgwyl i’r sefyllfa waethygu dros y pum mlynedd nesaf. O blith y rheiny sy’n profi’r effeithiau ar hyn o bryd, mae sefydliadau’n adrodd:
Er gwaethaf hyn, mae llai na hanner o gyflogwyr yng Nghymru (36%) gyda chynllun sgiliau ffurfiol yn ei le ac er bod data yn dangos bod hyfforddiant yn rhoi hwb i ddargadwedd, mae 30% o sefydliadau yn dweud eu bod yn oedi rhag hyfforddi staff oherwydd pryder eu bod am adael.
Darganfyddwch fwy ynghylch sut all cyflogwyr fynd i’r afael â phrinder sgiliau sefydliadau.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw