'A Special School' yn dychwelyd am gyfres newydd

Lisa Assistive Technology Lead with pupil Ieuan

Mae cyfres galonogol PA/BBC ‘A Special School’ yn dychwelyd i BBC One Wales ac iPlayer ar ddydd Llun 2 Rhagfyr am 8pm. 

Mae’r gyfres tair rhan yn dilyn y pleserau a’r heriau a wynebir gan ddisgyblion ac athrawon Ysgol Y Deri wrth i’r camerâu gipio gwirionedd bywyd yn ysgol addysg arbennig fwyaf Prydain unwaith eto.

'Mae gweithio ar Gyfres tri o 'A Special School' wedi bod yn uchafbwynt ein gwaith eleni,' dywedodd Leigh Worrall, Tiwtor cwricwlwm TAR y Brifysgol Agored a Sarah Adams, Darlithydd mewn Astudiaethau Addysg, a oedd yn ymgynghorwyr academaidd ar y gyfres. 'Yn y gyfres hon, roeddem yn awyddus i ddangos sut mae’r ysgol yn parhau i newid ac addasu mewn ymateb i anghenion y disgyblion a sut mae’r ddarpariaeth wedi ei hymestyn i ddarparu addysg i fwy o ddisgyblion. Fel tîm, rydym wedi adolygu ac ymgynghori ar rediadau’r storiâu. Mae rhediadau’r storiâu yng Nghyfres tri yn datblygu a myfyrio ar y rheiny yng Nghyfres un a dau. Mae pob pennod yn dathlu pob disgybl am bwy ydyn nhw, ac yn dangos sut y gall addysg gwmpasu cryfderau pob disgybl, a gyda’r gefnogaeth a’r strategaethau cywir, mae’n bosib goresgyn unrhyw rwystrau.

Yn y gyfres hon, roeddem yn awyddus i ddangos sut mae’r ysgol yn parhau i newid ac addasu mewn ymateb i anghenion y disgyblion a sut mae’r ddarpariaeth wedi ei hymestyn i ddarparu addysg i fwy o ddisgyblion.

Leigh Worrall

'Mae ein cynnwys ar-lein eleni wedi ceisio amlygu sut mae ysgolion yn addasu eu hamgylchfydoedd i anghenion y disgyblion.  Mae’n rhaid i bob ysgol, nid Ysgolion Arbennig yn unig, fod yn aml-swyddogaethol ac aml-ddimensiynol, yn benodol o ystyried pwysau cyllidebol a chyfyngiadau ariannol cynyddol. I ymgymryd â’r her hon, mae ysgolion yn defnyddio eu hadnoddau’n fedrus i greu mannau arloesol a diddorol ar gyfer dysgu, myfyrdod, hunan-reoli, gweithgaredd corfforol, ac wrth gwrs, addysgu. Mae’r ysgol yn datgan: `Nid yw’r dysgu i gyd yn digwydd yn y dosbarth’, a gobeithiwn fod ein map ysgol rhyngweithiol ar-lein yn amlygu hyn.'

'Fel academydd yn gweithio ym Mhartneriaeth TAR y Brifysgol Agored yng Nghymru, roedd yn bwysig i mi fod yr adnoddau a greasom yn cael eu darparu’n ddwyieithog,' ychwanegodd Leigh. 'Rydym yn hynod o ddiolchgar i Gwen Morgan (Tiwtor Cwricwlwm TAR) am gyfieithu’r cynnwys ar-lein i’r Gymraeg, a’n galluogi felly i gynnig adnodd hollol ddwyieithog eleni. Diolch, Gwen!'

Yn y bennod gyntaf, gwelwn yr ysgol yn agor darpariaeth newydd ar gyfer disgyblion uwchradd sydd wedi’u heithrio o addysg brif ffrwd, entrepreneuriaid addawol yn cyrraedd rowndiau terfynol Mentrau Ieuenctid Cymru, ac mae postman newydd ar y bloc.

Ewch i’n gwefan Darllediadau a Phartneriaid OU Connect lle gallwch gael cip ar ysgol arbennig dros eich hun - ewch am dro rhithiol - o gwmpas ardaloedd anhygoel a gwylio rhannau nas gwelwyd o’r gyfres.

Comisiynwyd y gyfres hon gan Ddarlleniadau a Phartneriaethau ac fe'i cefnogir gan gyfadran Astudiaethau Llesiant, Addysg ac Iaith. Mae’r gyfres yn benodol o berthnasol i TAR yng Nghymru, Gradd Meistr mewn Addysg, BA (Anrhydedd) Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chyflwyno iechyd a gofal cymdeithasol.

  • Comisiynwyd gan Dr Caroline Ogilvie, Cyfarwyddwr, Darllediadau a Phartneriaethau
  • Ymgynghorwyr Academaidd: Leigh Worrall a Sarah Adams
  • Cymrawd y Cyfryngau: Dr Alex Twitchen
  • Rheolwr Prosiect y Darllediadau: Jo Shipp
  • Cefnogi’r cynnwys ar-lein: Steff Easom

Request your prospectus

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Open University in Wales media enquiries:

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891

Coffi a biscedi ar fwrdd

Cydweithrediad y Brifysgol Agored gyda'r Talking Shop

Ar 28 Chwefror bydd y Brifysgol Agored (OU) yng Nghymru yn cyd-gynnal yn y Siop Siarad yn y Coed Duon, ac eisiau clywed gan bobl ifanc (16-25).

Mae’r Brifysgol Agored yn gweithio gydag Undeb Rygbi Cymru i hyrwyddo rygbi ledled Cymru

Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn gweithio gydag Undeb Rygbi Cymru (WRU) i asesu effaith ehangach un o’i rhaglenni yn ysgolion Cymru.