Beth sy’n gwneud rhywle yn gartref? Ai’r pridd o dan ein hewinedd, y llysenwau sy’n cael eu gweiddi ar draws tafarn, neu adlais o gastell Normanaidd?
Yr wythnos hon, Mae Theatr Torch Aberdaugleddau wedi’i thrawsnewid yn gapsiwl amser byw, gydag arddangosfa newydd sy’n dal cysylltiad pobl leol gyda Sir Benfro.
Mae’r gweithiau celf a’r darnau creadigol wedi cael eu cynhyrchu gan dîm o bobl sy’n rhan o REACH Cymru - prosiect gan y Brifysgol Agored yng Nghymru sy’n helpu pobl i archwilio eu hunaniaeth a’u hanes drwy’r celfyddydau mewn pum cymuned led-led Cymru. Caiff ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Yn Sir Benfro, daw’r artistiaid o bob rhan o’r sir: mae nifer yn denantiaid gyda chymdeithas dai Grŵp ateb yn Aberdaugleddau, ac mae eraill yn rhan o VC Gallery Doc Penfro.
Mae rhai o’r eitemau a arddangosir yn cynnwys:
.png)
Mae’r gwaith creadigol yn frith o sgyrsiau hanesyddol am Sir Benfro gan bartneriaid yn y Brifysgol Agored ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru ynghyd â rhai teithiau i amgueddfeydd lleol, yr Archifdy sirol, hufen iâ, rhannu cinio, llawer o hwyl, sgyrsiau ac atgyfnerthu cyfeillgarwch,' dywedodd Sue Mackie, Arweinydd Tîm Datblygu’r Gymuned i Grŵp ateb. 'Roeddent yn archwilio’r cysyniad o ‘Gynefin’ - gair sy’n ymgorffori’r syniad o le, o berthyn yn yr ystyr gorfforol, ddiwylliannol ac ysbrydol.'
'Rydym ni i gyd yn gyfarwydd â Sir Benfro fel un o’r llefydd harddaf yng Nghymru,' ychwanegodd Vicky Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru. 'Ond yn rhan greiddiol ohoni hefyd yw ei phobl, a’u straeon cyfoethog, cudd, sydd wedi dod yn fyw drwy’r arddangosfa hon. Llongyfarchiadau mawr i dîm y prosiect ar gynhyrchu digwyddiad sydd wedi creu cymaint o chwilfrydedd.'
'Mae REACH Cymru yn enghraifft wych o sut y gall creadigrwydd a threftadaeth gydweithio i gryfhau ymdeimlad pobl o berthyn,' dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru. 'Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym yn falch o gefnogi prosiect sy'n rhoi lle i gymunedau archwilio eu hunaniaethau, adrodd eu straeon a dathlu'r diwylliant cyfoethog sy'n gwneud Sir Benfro mor arbennig.'
Bydd y cynnwys hen hefyd yn ffurfio rhan o brif arddangosfa REACH a ddangosir yn Sain Ffagan o hydref 2026 a bydd yn cynnwys gwaith gan bob un o’r saith sefydliad partner sydd wedi cyfrannu at Brosiect REACH.
Cefndir Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol
Ein gweledigaeth yw bod treftadaeth gael ei gwerthfawrogi, ei chynnal a’i gofalu amdani, i bawb, nawr ac yn y dyfodol. Dyna pam, fel yr ariannwr mwyaf treftadaeth y DU ein bod yn ymroddedig i gefnogi prosiectau sy’n cysylltu pobl a chymunedau gyda threftadaeth, fel y nodir yn ein cynllun strategol, Treftadaeth 2033. Gall treftadaeth fod yn unrhyw beth o’r gorffennol mae pobl yn gweld gwerth ynddo ac eisiau ei drosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol. Rydym yn credu yng ngrym treftadaeth i danio’r dychymyg, cynnig llawenydd ac ysbrydoliaeth, a meithrin balchder mewn lle a chysylltiad â’r gorffennol.
Yn ystod y 10 mlynedd nesaf rydym yn bwriadu buddsoddi £3.6 biliwn a godwyd ar gyfer achosion da gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i wneud gwahaniaeth pendant i bobl, lleoedd a chymunedau.
Dilynwch @HeritageFundUK ar X, Facebook ac Instagram a defnyddiwch #LoteriGenedlaethol #CronfaDreftadaeth

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Rhodri Davies
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532
Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891
Beth sy’n gwneud rhywle yn gartref? Ai’r pridd o dan ein hewinedd, y llysenwau sy’n cael eu gweiddi ar draws tafarn, neu adlais o gastell Normanaidd?
Mae’r Brifysgol Agored wedi cyhoeddi Prentisiaeth Gradd Ddigidol i Gymru.