Prifysgolion Cymru yn helpu i fynd i’r afael â thlodi mewn cymunedau ledled Cymru

Lynnette Thomas, yn traddodi araith yn y Senedd

Ddydd Mawrth 27 Mehefin, cymerodd y Brifysgol Agored yng Nghymru ran mewn arddangosfa yn y Senedd i ddangos sut mae prifysgolion yn mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru.

Roedd y digwyddiad, a gynullwyd gan Rwydwaith Cenhadaeth Ddinesig Prifysgolion Cymru, yn arddangos y gwaith y mae prifysgolion yng Nghymru yn ei wneud i helpu â lliniaru tlodi o wahanol fathau – o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb iechyd a thlodi bwyd, i weithio gyda grwpiau difreintiedig i wella mynediad at ddiwylliant a'r celfyddydau. 

Ymhlith y prosiectau a drafodwyd gan y Brifysgol Agored yng Nghymru oedd REACH Cymru, prosiect celfyddydau creadigol sy'n cefnogi pobl mewn pum cymuned yng Nghymru i archwilio cysylltiadau â hanes eu hardaloedd lleol. Mae’r tîm wedi gweithio gyda phartneriaid lleol gan gynnwys arweinwyr cymunedol, cymdeithasau tai ac Amgueddfa Cymru. 

Ymhlith y cymunedau sy’n cymryd rhan mae: 

  • pobl sy'n byw yn Nhrebiwt, Caerdydd, un o gymunedau amlddiwylliannol hynaf y DU 
  • ardal Sandfields ym Mhort Talbot, tref sydd wedi bod wrth galon hanes diwydiannol Cymru 
  • sawl ardal lled-wledig ar draws Sir Benfro 
  • pobl ag anabledd dysgu sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf, Caerdydd a Bro Morgannwg 
  • ardaloedd o Wynedd gyda chysylltiadau â chwarela a chloddio llechi. 

‘Mae gan ein prifysgolion rôl bwysig i’w chwarae mewn cymunedau ledled Cymru, y tu hwnt i’w cylch gorchwyl traddodiadol o ddysgu, addysgu ac ymchwil,’ meddai. Lynnette Thomas, dirprwy gyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru, sydd hefyd yn gadeirydd Rhwydwaith Cenhadaeth Ddinesig Prifysgolion Cymru.

‘Mae tlodi yn her gynyddol sy’n wynebu pobol a lleoliadau yng Nghymru. Drwy weithio mewn partneriaeth â chymunedau, busnesau ac asiantaethau eraill, mae prifysgolion yn cael effaith sylweddol yn y maes hwn, gan ddod o hyd i ddatrysiadau arloesol i heriau a gwneud gwahaniaeth diriaethol i fywydau pobl ledled y wlad.’

‘Mae digwyddiad heddiw yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni drwy gydweithio a meddwl yn greadigol, ac edrychaf ymlaen at weld beth arall y gallwn ei gyflawni pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd.’

Mae’r digwyddiad yn dod dwy flynedd wedi lansiad Fframwaith Cenhadaeth Ddinesig Cymru, sydd wedi galluogi Prifysgolion i gydweithio â phartneriaid i gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

‘Er bod mwy i’w wneud bob amser, rwy’n falch bod sector addysg uwch Cymru yn arwain y ffordd gyda’n Fframwaith Cenhadaeth Ddinesig,’, ychwanegodd Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg a Addysg.

‘Mae gan brifysgolion a sefydliadau addysg uwch rôl hollbwysig i’w chwarae wrth fynd i’r afael â thlodi, oherwydd mae ganddynt adnoddau a galluoedd unigryw a all greu effaith sylweddol. Mae'n wych gweld ymrwymiad y sector i hyn.

‘Bydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn annog sefydliadau i ymestyn y tu hwnt i’r campws a sicrhau bod yr arfer da hwn yn parhau, yn datblygu ac yn tyfu mewn pwysigrwydd dros amser.’

Request a prospectus

Explore our qualifications and courses by requesting one of our prospectuses today.

Request prospectus

Rhodri Davies 
Senior Communications Manager,
Telephone: 029 2167 4532

For general OU media enquiries please contact the press office -
Telephone: 01908 654316 /
Out of office hours: 07901 515891

Person mewn cot labordy yn edrych i mewn i ficrosgop

Mae angen i brifysgolion addasu i ymdopi â heriau deallusrwydd artiffisial, medd academydd y Brifysgol Agored yng Nghymru

Bydd llyfr newydd a gynhyrchwyd gan grŵp o academyddion y Brifysgol Agored yn archwilio sut y gall prifysgolion gefnogi myfyrwyr i ddefnyddio technoleg newydd, ac ymdopi â'r heriau a ddaw yn sgil deallusrwydd artiffisial i addysg uwch.

Stefan o flaen sgrin gyda'r logo Sandfish

Cwmni meddalwedd Abertawe yn buddsoddi mewn prentisiaethau

Ers cyfnod disgiau hyblyg ac argraffwyr dot-matrix, mae cenedlaethau o bobl wedi creu gyrfa ym maes datblygu meddalwedd.