Mae Tony, sy’n wyth deg saith oed, ymysg cannoedd o raddedigion yn y seremoni raddio

Tony

Cyrhaeddodd dros 600 o fyfyrwyr y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol (ICC) yng Nghasnewydd, fel rhan o seremoni raddio'r Brifysgol Agored yng Nghymru.

Yn ystod seremonïau'r bore a’r prynhawn, cerddodd myfyrwyr ar draws lwyfan yr ICC i dderbyn eu graddau gan Ddirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Menter ac Ysgoloriaethau’r Brifysgol Agored, Yr Athro Kevin Shakesheff a Chyfarwyddwr Y Brifysgol Agored yng Nghymru, Ben Lewis.

Ymysg y graddedigion, roedd Tony Morton o Gaerdydd, sy’n 87 oed. Dechreuodd y cyfarwyddwr cwmni, sydd wedi ymddeol, astudio ar gyfer gradd yn ystod y pandemig covid a’r cyfnod clo cenedlaethol.

'Ni fuaswn wedi gallu cwblhau fy astudiaethau heb y cymorth technegol rwyf wedi ei dderbyn a’r gefnogaeth gan fy narlithwyr cyswllt yn y Brifysgol Agored dywedodd Tony. 'Wrth i’r cyfnod clo ddod i rym yn y DU yn sgil Covid, roeddwn ar goll. Roeddwn yn 84 oed ac yn actif iawn, ac nid oeddwn yn edrych ymlaen at gael fy nghloi mewn a bod yn unig. Gyda pherswâd fy nheulu i gyflawni un o’m huchelgeisiau mewn bywyd, dechreuais astudio gradd gyda’r Brifysgol Agored a dechreuais ar fy nhaith rithwir o ddarganfod.'

Ar ôl gorffen ei radd yn gynharach eleni, cafodd Tony gydnabyddiaeth yn y gwobrau Inspire! dysgu Oedolion, gan ennill gwobr yn y Categori Heneiddio’n Dda.

Cafodd Tony a’i gyd-fyfyrwyr gwmni graddedigion er anrhydedd y Brifysgol Agored, Dr Jane Davidson a Jason Mohammad.

Mae Jane Davidson yn gyn-gynghorydd Cyngor Caerdydd, yn Aelod Cynulliad ar gyfer Pontypridd ac yn Weinidog yn Llywodraeth Cymru.

Fel Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, cyflwynodd ardoll gyntaf y DU ar fagiau defnydd untro; a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sydd wedi gwneud datblygiad cynaliadwy yn egwyddor trefn ganolog sector cyhoeddus Cymru.

Graddedigion er anrhydedd, Jason a Jane

Dywedodd Jane Davidson:

'Rwy'n angerddol am wneud yn siŵr bod gennym ddyfodol byw i bob un ohonom ar y blaned hon. Rwy'n falch iawn o fod yma i dderbyn gradd er anrhydedd y Brifysgol Agored. Mae'n anrhydedd arbennig. Mae'r Brifysgol Agored mewn sefyllfa berffaith i helpu ei holl fyfyrwyr i ddeall effaith peidio â gweithredu ar eu bywydau a bywydau cenedlaethau'r dyfodol'.

Dechreuodd Jason Mohammad, o Drelái, ar ei yrfa gyda BBC Wales Today. Ar hyn o bryd, mae’n cyflwyno sioe fore Radio Wales, ac mae’n cael ei adnabod ledled y DU fel darlledwr chwaraeon ym meysydd rygbi, pêl-droed ac athletau.

Fel Mwslim, mae Jason wedi siarad yn agored am ei ffydd. Yn 2009, creodd raglen ddogfen Y Daith ar gyfer S4C ar ei bererindod i Mecca, y gwnaeth ei disgrifio fel ‘deffroad ysbrydol’.  

Mae hefyd wedi rhoi ei gefnogaeth i sefydliadau sy’n cefnogi pobl ifanc Du, Asiaidd a phobl o leiafrifoedd ethnig i mewn i chwaraeon. Yn ogystal, mae wedi sefydlu ei Jason Mohammad Academy ei hun, mewn partneriaeth â Choleg Caerdydd a’r Fro, sy’n awyddus i gefnogi pobl ifanc yn y brifddinas a ger y brifddinas sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes darlledu.

Dywedodd Jason Mohammad:

'Rwyf wrth fy modd yn cael derbyn y fraint fendigedig hon gan y Brifysgol Agored yng Nghymru. Mae gennyf ffrind da iawn a gyflawnodd radd gyda'r Brifysgol Agored sydd erbyn hyn yn byw breuddwyd yn California. Nid wyf erioed wedi rhoi’r gorau i hyrwyddo dysgu gydol oes, ac mae’n rhywbeth rwyf wedi ymrwymo’n llawn iddo, wrth i fy Academi gyfryngau fynd o nerth i nerth.'

'Mae angen i bawb ohonom wneud mwy i annog pobl naill ai i barhau neu gychwyn gwneud yn fawr o’u cyfleoedd drwy ddarllen, ysgrifennu a holi cwestiynau am ein byd. Llongyfarchiadau i’r holl raddedigion. Dymuniadau gorau posib ichi gyda beth bynnag y gwnewch nesaf. Rwy'n eich edmygu. Rwy’n falch iawn drosoch, ewch allan i’r byd a dangoswch yr hyn sydd gennych i’w gynnig.'

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891

Stefan o flaen sgrin gyda'r logo Sandfish

Cwmni meddalwedd Abertawe yn buddsoddi mewn prentisiaethau

Ers cyfnod disgiau hyblyg ac argraffwyr dot-matrix, mae cenedlaethau o bobl wedi creu gyrfa ym maes datblygu meddalwedd.

Coffi a biscedi ar fwrdd

Cydweithrediad y Brifysgol Agored gyda'r Talking Shop

Ar 28 Chwefror bydd y Brifysgol Agored (OU) yng Nghymru yn cyd-gynnal yn y Siop Siarad yn y Coed Duon, ac eisiau clywed gan bobl ifanc (16-25).