Mae gwefan newydd wedi'i lansio gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru a TUC Cymru i gefnogi mwy o bobl i ddysgu gydol oes. Mae dysgutrwyrundeb.cymru yn rhoi gwybodaeth am raddau’r Brifysgol Agored a chyrsiau am ddim, yn ogystal â’r cyllid sydd ar gael i holl weithwyr Cymru.
Cymerwch sbec ar dysgutrwyrundeb.cymru
Mae'r wefan newydd yn cynnwys disgrifiadau o gyrsiau'r Brifysgol Agored i bobl sydd am uwchsgilio neu newid eu gyrfa. Mae'r rhain yn cynnwys graddau israddedig ac ôl-raddedig, yn ogystal â chyrsiau Mynediad a all helpu pobl i gymryd cam i addysg uwch am y tro cyntaf.
Gall defnyddwyr hefyd gael gwybod am Gronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF), sydd wedi’i sefydlu gan Lywodraeth Cymru i helpu pobl i ddysgu drwy eu hundeb ac yn y gweithle. Gellir defnyddio'r gronfa tuag at astudio cyrsiau Mynediad a meicro-gymhwysterau gyda'r Brifysgol Agored.
Mae gan dysgutrwyrundeb.cymru hefyd gyflwyniad i OpenLearn, gwefan dysgu am ddim y Brifysgol Agored. Yma, gall defnyddwyr bori dros 10,000 o oriau o ddysgu am ddim, gan gynnwys cyrsiau ar-lein, fideos, erthyglau a gemau.
'Mae astudio gyda’r Brifysgol Agored yn ffordd wych o ddysgu sgiliau newydd a datgloi eich potensial, wrth ichi reoli ymrwymiadau eraill fel gwaith a theulu,' meddai Ben Lewis, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru.
'Gallech fod yn rhywun sydd eisoes â gradd ac sy'n edrych i newid eich galwedigaeth. Neu, efallai nad oes gennych gefndir mewn addysg uwch, a’ch bod am gymryd eich camau cyntaf i ddysgu fel oedolyn. Y naill ffordd neu’r llall, mae dysgutrwyrundeb.cymru yn fan cychwyn i gael gwybod am addysg oedolion a sut y gall eich helpu yn eich gyrfa'
Mae dysgu am oes. Dylai pob gweithiwr gael y cyfle i uwchsgilio a magu eu hyder trwy ddysgu.
Rydym yn falch iawn o fod yn bartner gyda’r Brifysgol Agored ar y wefan newydd gyffrous hon sy’n darparu miloedd o oriau o ddysgu am ddim. Gall dysgwyr hefyd fanteisio ar gymorth ariannol drwy Gronfa Ddysgu Undebau Cymru, sy'n agored i bob gweithiwr yng Nghymru, i gael mynediad at gyrsiau gan gynnwys meicro-gymwysterau trwy'r Brifysgol Agored.
Edrychwn ymlaen at barhau â’n perthynas gref â’r Brifysgol Agored i gefnogi dysgwyr yn y gweithle ledled Cymru.
Shavanah Taj
Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru
Explore our qualifications and courses by requesting one of our prospectuses today.
Rhodri Davies
Senior Communications Manager,
Telephone: 029 2167 4532
For general OU media enquiries please contact the press office -
Telephone: 01908 654316 /
Out of office hours: 07901 515891
Bydd llyfr newydd a gynhyrchwyd gan grŵp o academyddion y Brifysgol Agored yn archwilio sut y gall prifysgolion gefnogi myfyrwyr i ddefnyddio technoleg newydd, ac ymdopi â'r heriau a ddaw yn sgil deallusrwydd artiffisial i addysg uwch.
Ers cyfnod disgiau hyblyg ac argraffwyr dot-matrix, mae cenedlaethau o bobl wedi creu gyrfa ym maes datblygu meddalwedd.