Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan y Brifysgol Agored heddiw yn dangos bod pobl ifanc yng Nghymru yn fwy tebygol o fod yn anfodlon gyda democratiaeth ac yn llai tebygol o gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth ffurfiol.
Mae’r gwaith ymchwil yn dilyn prosiect Ysgogwyr Newid y Brifysgol Agored, a fu’n gweithio gyda phobl 16-24 mlwydd oed yng Nghymru i ddarganfod beth maen nhw’n ei wybod am sefydliadau gwleidyddol yn y DU a sut i sbarduno newid cymdeithasol.
Mae canfyddiadau ymchwil eraill yn dangos bod pobl ifanc o Gymru’n teimlo’n fwy hyderus yn eu gallu i ddylanwadu ar newid drwy senedd Cymru o’i gymharu â senedd y DU, ond bod llawer yn ansicr ynglŷn â sut i gyflwyno’r newid hwnnw.
Dywedodd nifer o’r bobl ifanc a holwyd hefyd eu bod yn dibynnu’n bennaf ar y cyfryngau cymdeithasol am wybodaeth am faterion gwleidyddol a chymdeithasol. Mae llawer hefyd yn teimlo eu bod yn gallu gwneud newid cymdeithasol y tu allan i seneddau – er enghraifft trwy ymgyrchu lleol, codi ymwybyddiaeth o fater penodol, neu greu deiseb.
Mae argymhellion yr adroddiad yn cynnwys cynyddu’r ffocws ar addysg wleidyddol mewn cwricwla ysgolion y DU, a darparu addysg am ddinasyddiaeth i oedolion.
Mae’r tîm y tu ôl i’r gwaith ymchwil hefyd wedi creu Ysgogwyr Newid, gwefan i bobl ifanc sy’n rhoi cyngor ymarferol ynglŷn â sut i weithredu ar faterion sy’n bwysig iddyn nhw. Mae’n cynnwys gwybodaeth am senedd y DU, y Senedd a chynghorau lleol, gan egluro pa un o’r rhain sy’n gyfrifol am wahanol feysydd polisi.
Mae Dr Donna Smith (prif awdur) yn Uwch Ddarlithydd Gwleidyddiaeth yn y Brifysgol Agored, Prif Gymrawd yr Academi Addysg Uwch, Cymrawd y Ganolfan ar gyfer Addysg Ar-lein ac o bell, ac Ymddiriedolwr y Gymdeithas Astudiaethau Gwleidyddol. Mae ei diddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar wleidyddiaeth a’r cyfryngau, dinasyddiaeth weithredol ac addysgu a dysgu.
'Mae cyflymder y newid mewn gwleidyddiaeth, technoleg a’r cyfryngau yn gynt nag erioed,' dywedodd Donna Smith, Uwch Ddarlithydd mewn Gwleidyddiaeth yn y Brifysgol Agored, a phrif awdur yr adroddiad. 'Er bod hyn yn gyffrous, mae’n gallu bod yn anodd dal i fyny, a gall llawer o bobl deimlo’n analluog os byddant yn credu bod penderfyniadau’n cael eu gwneud hebddynt. Mae ein gwaith ymchwil wedi dangos bod pobl ifanc yn fwy tebygol o deimlo fel hyn am wleidyddiaeth, ac yn llai tebygol o bleidleisio neu ymuno â phlaid wleidyddol.
'Nod y prosiect Ysgogwyr Newid oedd darganfod yr hyn y mae pobl ifanc yn ei wybod am wleidyddiaeth, a’r hyn maent yn ei ddeall am eu gallu eu hunain i wneud newid. Mae’n bwysig bod pob un ohonom sydd â diddordeb yn ein proses ddemocrataidd yn cefnogi pobl ifanc i ddysgu am ddinasyddiaeth mewn ffordd sy’n addas iddyn nhw, fel eu bod yn teimlo bod ganddynt fwy o rym i newid yr hyn sy’n bwysig iddynt.'
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Rhodri Davies
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532
Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891
Beth mae Cymru yn ei olygu i chi? Ai ei thirwedd gyfoethog, ei thraddodiadau, neu ei threftadaeth ddiwydiannol? Neu, a yw'n fwy ynghylch Cymru gyfoes - boed hynny'n sgrech gitâr drydan, gorymdeithio mewn digwyddiad Pride, neu ddathlu ein sin gelfyddydol gyfoes?
Ddydd Sadwrn 28 Mawrth 2026, bydd AP Cymru a’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn lansio’r digwyddiad cymunedol Gofalu am Ofalwyr Cymru cyntaf erioed - diwrnod cyfan