Ei Mawrhydi Y Frenhines, 1926-2022

Ei Mawrhydi y Frenhines

Mae'n wir ddrwg gan y Brifysgol Agored glywed am farwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines ac mae'n ymuno â phobl o bedwar ban byd i fynegi ein cydymdeimlad â'r Teulu Brenhinol. 

Mewn ymateb i'w marwolaeth, dywedodd yr Athro Tim Blackman, Is-ganghellor y Brifysgol Agored: “Ar ran y Brifysgol Agored, hoffwn estyn ein cydymdeimlad dwysaf â'r Teulu Brenhinol.  

“Caiff Ei Mawrhydi ei chofio fel cymeriad hanesyddol arwyddocaol dros ben ac yn un a arweiniodd y wlad drwy'r cyfnodau gorau a'r gwaethaf. Mae ar bob un ohonom yn y Brifysgol Agored, a thu hwnt, ddyled enfawr iddi am oes o wasanaeth cyhoeddus sydd wedi ymestyn dros gynifer o adegau arwyddocaol ac wedi cyffwrdd â chynifer o fywydau.   

“Roedd Ei Mawrhydi yn eiriolwr angerddol dros rym addysg, fel y gwelir drwy ei chefnogaeth i gynlluniau fel Gwobr Pen-blwydd y Frenhines ac amrywiaeth o weithgarwch dros y blynyddoedd. Gwnaeth ei hymweliad â'n Campws yn Milton Keynes yn 1979, ar achlysur ein degfed pen-blwydd, chwarae rhan arwyddocaol yn natblygiad y Brifysgol Agored, gan helpu i roi mwy o hygrededd i'r hyn a oedd yn cael ei ystyried yn arbrawf addysgol o hyd ar y pryd. 

“Byddwn ni, y Brifysgol Agored, nawr yn ymuno â'r Teulu Brenhinol, y wlad a'r byd i alaru o golli brenhines anhygoel." 

Request your prospectus

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Open University in Wales media enquiries:

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891

Coffi a biscedi ar fwrdd

Cydweithrediad y Brifysgol Agored gyda'r Talking Shop

Ar 28 Chwefror bydd y Brifysgol Agored (OU) yng Nghymru yn cyd-gynnal yn y Siop Siarad yn y Coed Duon, ac eisiau clywed gan bobl ifanc (16-25).

Mae’r Brifysgol Agored yn gweithio gydag Undeb Rygbi Cymru i hyrwyddo rygbi ledled Cymru

Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn gweithio gydag Undeb Rygbi Cymru (WRU) i asesu effaith ehangach un o’i rhaglenni yn ysgolion Cymru.