Mae ymchwil newydd gan y Sefydliad Materion Cymreig (IWA) a’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn dangos y byddai pobl yng Nghymru yn cefnogi cyllid ar gyfer mwy newyddion hyper-leol o ansawdd uwch, mwy o addysg a gwell addysg am ddemocratiaeth, a mwy a gwell rheoleiddio ar y cyfryngau yng Nghymru.
Mae cyfryngau Cymru yn wynebu argyfwng: mae toriadau mewn cyllid, cau gwasanaethau newyddion, bygythiadau i ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus a llai o gyfleoedd i newyddiadurwyr weithio yng Nghymru ers rhai blynyddoedd wedi bod yn arwyddion o ddemocratiaeth gyda sgwâr cyhoeddus sy’n lleihau.
Er mwyn creu atebion i'r argyfwng hwn, yn ystod haf 2022 comisiynodd yr IWA a'r Brifysgol Agored yng Nghymru Banel Dinasyddion o bymtheg o bobl o bob cefndir yng Nghymru i drafod y materion hyn yn fanwl ac i lunio argymhellion ar gyfer atebion. Canfu’r grŵp y dylid gweithredu mesurau a fyddai’n caniatáu i Gymru gefnogi ei chyfryngau’n fwy effeithiol, a rhoi buddiannau dinasyddion a chymunedau yn ganolog iddynt.
Wrth siarad â dinasyddion, canfu’r IWA a’r Brifysgol Agored yng Nghymru y gallai corff rheoleiddio effeithiol sy’n cwmpasu’r holl sefydliadau cyfryngau sy’n weithredol yng Nghymru, gan gynnwys y wasg, darlledu ac ar-lein, helpu i gynyddu ymddiriedaeth yn ansawdd a chywirdeb y newyddion. Mae’r adroddiad yn dweud y dylai safon uchel o newyddion fod yn hawdd i’w gyrchu ac mor hawdd i’w wirio â phosibl, ac mae’n argymell fframwaith arfer gorau ar gyfer newyddiaduraeth a allai arwain at ddefnyddio sgoriau tebyg i’r rhai a ddefnyddir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd i wirio lefelau hylendid bwyd mewn bwytai.
Credwn y dylid trin y cyfryngau yng Nghymru fel gwasanaeth hanfodol, gyda phopeth y mae'r term hwn yn ei awgrymu ar gyfer ansawdd, cywirdeb a hygyrchedd i bawb, ym mhobman yng Nghymru. Mae newyddiaduraeth o ansawdd uchel yn sylfaen i ddemocratiaeth iach ac mae angen ei diogelu, a'i hariannu'n ddigonol i wasanaethu anghenion pob dinesydd.
Auriol Miller
Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig
Dywedodd dinasyddion hefyd y dylai’r cyfryngau yng Nghymru roi sylw gwell i hanes a diwylliant Cymru, yn ogystal â dod â gwleidyddiaeth a materion cyfoes Cymreig i’r gymuned ehangach yn fwy effeithiol. Roeddent yn glir bod addysg ddemocrataidd yn rhan bwysig o sicrhau bod dinasyddion yn teimlo'n wybodus ac yn rhan o'r prosesau gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau.
Dywedasant y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu ffynonellau cyllid cyhoeddus newydd i alluogi grwpiau lleol i ddarparu newyddion lleol hygyrch ar-lein, ac y dylai gwasanaethau gwybodaeth newydd am hanes, diwylliant a system wleidyddol Cymru lywio rhaglen helaeth o addysg oedolion a fyddai’n hybu dealltwriaeth dinasyddion o ddemocratiaeth.
Dywedasant hefyd y dylid cryfhau addysg ddemocrataidd mewn ysgolion drwy’r Cwricwlwm i Gymru a'r set newydd o gymwysterau TGAU sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd gan Gymwysterau Cymru.
'Credwn y dylid trin y cyfryngau yng Nghymru fel gwasanaeth hanfodol,' meddai Auriol Miller, Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig, 'gyda phopeth y mae'r term hwn yn ei awgrymu ar gyfer ansawdd, cywirdeb a hygyrchedd i bawb, ym mhobman yng Nghymru. Mae newyddiaduraeth o ansawdd uchel yn sylfaen i ddemocratiaeth iach ac mae angen ei diogelu, a'i hariannu'n ddigonol i wasanaethu anghenion pob dinesydd.'
'Er bod ein democratiaeth yn ifanc o hyd, gall Cymru fod ar flaen y gad yn y broses ddemocrateiddio gwybodaeth hon,' ychwanegodd Louise Casella, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru. 'Drwy gydweithio, gallwn sicrhau nid yn unig bod ein dinasyddion yn gallu cael gafael ar wybodaeth, ond hefyd eu bod yn gallu ei deall ac, yn hollbwysig, ei defnyddio.'
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Rhodri Davies
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532
Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891
Ar 28 Chwefror bydd y Brifysgol Agored (OU) yng Nghymru yn cyd-gynnal yn y Siop Siarad yn y Coed Duon, ac eisiau clywed gan bobl ifanc (16-25).
Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn gweithio gydag Undeb Rygbi Cymru (WRU) i asesu effaith ehangach un o’i rhaglenni yn ysgolion Cymru.