Cynghorydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau prif rôl polisi’r Brifysgol Agored

Dewi Knight

Mae'r Brifysgol Agored wedi cadarnhau penodiad Dewi Knight i rôl Cyfarwyddwr PolisyWISE, sef menter polisi cyhoeddus newydd pwysig, a fydd yn cael ei lansio yn ddiweddarach eleni.

Mae Dewi'n ymuno â'r Brifysgol Agored o Lywodraeth Cymru lle mae'n Gynghorydd Polisi Arbenigol dros Ddiwygio Addysg. Bydd yn arwain PolicyWISE, sef rhwydwaith academaidd cyntaf y DU, i gynnal ymchwil polisi cymharol a chyfnewid gwybodaeth ledled pedair gwlad y DU ac Iwerddon. Mae'r Brifysgol Agored wedi derbyn £1m o gyllid gan Dangoor Education i gefnogi lansiad a datblygiad PolisyWISE dros y pedair blynedd nesaf.

Bu Dewi'n gweithio yng nghalon Llywodraeth Cymru ers dros chwe mlynedd, ac mae wedi helpu i fwrw ymlaen â'r diwygiadau addysg mwyaf wedi'r rhyfel yn y DU ac roedd ganddo rôl allweddol yn y gwaith o ddatblygu strategaeth addysg genedlaethol Cymru. Cyn hyn, roedd ganddo rolau cynghori polisi uwch eraill gyda’r British Council yn Tsieina, gyda Phrifysgol Swydd Bedford ac mae’n Fentor Arweinyddiaeth ar gyfer Rhwydwaith Datblygu Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol UKRI.

Gan weithio gyda chydweithwyr ym mhob rhan o'r Brifysgol Agored, prifysgolion partner a’n llywodraethau, rwy’n hyderus y bydd PolisyWISE yn chwarae rhan hanfodol wrth fynd i’r afael â’r heriau polisi cyhoeddus sy’n ymwneud â dinasyddiaeth a rennir, llesiant a ffyniant.

Rwy'n gobeithio defnyddio fy mhrofiad o weithio gyda pholisi, llywodraeth ac addysg i wireddu cyfleoedd ar gyfer cyflwyno polisi cadarnhaol a chyfnewid gwybodaeth ar draws y pedair gwlad, a meithrin cysylltiadau rhyngwladol cryf o ran polisi, ymchwil a chyfnewid gwybodaeth.

Dewi Knight

'Rydym yn falch o groesawu Dewi i'r rôl gyffrous newydd hon yn Y Brifysgol Agored, dywedodd  Louise Casella, Cyfarwyddwr Y Brifysgol Agored yng Nghymru, sydd wedi arwain datblygiad cychwynnol PolicyWISE. 'Mae ganddo brofiad sylweddol yn helpu i yrru PolisyWISE yn ei flaen ac i wireddu ei botensial llawn fel cyswllt i helpu i greu polisi cyhoeddus gwell sy'n ystyried lle a realiti datganoli, ond yn bwysicach sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ac i gymunedau.'

Request your prospectus

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Open University in Wales media enquiries:

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891

Coffi a biscedi ar fwrdd

Cydweithrediad y Brifysgol Agored gyda'r Talking Shop

Ar 28 Chwefror bydd y Brifysgol Agored (OU) yng Nghymru yn cyd-gynnal yn y Siop Siarad yn y Coed Duon, ac eisiau clywed gan bobl ifanc (16-25).

Mae’r Brifysgol Agored yn gweithio gydag Undeb Rygbi Cymru i hyrwyddo rygbi ledled Cymru

Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn gweithio gydag Undeb Rygbi Cymru (WRU) i asesu effaith ehangach un o’i rhaglenni yn ysgolion Cymru.