Cyfarwyddwr Dros Dro newydd i'r Brifysgol Agored yng Nghymru

David Price

Yn dilyn ymddeoliad Louise Casella yr wythnos ddiwethaf, mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi penodi Cyfarwyddwr Dros Dro newydd. Bydd David Price yn arwain y tîm yng Nghymru nes y bydd y brifysgol wedi penodi unigolyn yn y swydd yn barhaol.

Mae David yn ymgynghorydd rheoli annibynnol, yn hyfforddwr gweithredol ac yn rheolwr dros dro, sy’n gweithio'n bennaf gyda sefydliadau addysgol trydyddol. Cyn hynny, treuliodd 25 mlynedd yn gweithio i nifer o brifysgolion y DU a chyrff adrannol anllywodraethol, mewn swyddi cynllunio strategol a pholisïau. Ei swydd barhaol ddiwethaf oedd Dirprwy Is-ganghellor (Strategaeth a Pherfformiad) ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae David wedi bod yn Brif Weithredwr dros dro yn Colegau Cymru/Colleges Wales (y corff sy’n cynrychioli’r sector addysg bellach yng Nghymru); yn ymgynghori Prifysgolion Cymru (y corff sy’n cynrychioli’r sector addysg uwch yng Nghymru), Prifysgol De Cymru a’r Brifysgol Brydeinig yn yr Aifft; ac mae wedi gwasanaethu fel ymddiriedolwr elusen yn ogystal ag yn aelod annibynnol o Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cyngor Caerdydd.

Hynod braf yw ymuno â’r Brifysgol Agored. O wybod am bwysigrwydd y Brifysgol Agored o fewn y maes addysg yng Nghymru, a’r effaith gadarnhaol y caiff ar fyfyrwyr a chymunedau ar draws y wlad, rwyf wir yn edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr er mwyn adeiladu ar lwyddiannau’r rhai blynyddoedd diwethaf.

David Price
Cyfarwyddwr Dros Dro

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891

Michael Sheen

Dewch i gwrdd â'r academyddion a helpodd i gyd-gynhyrchu Buried

Yn y gyfres ddwy ran, mae’r actor clodwiw o Gymru, Michael Sheen yn archwilio honiadau am ‘gemegau am byth’ gwenwynig sydd wedi cael eu cuddio o dan y ddaear mewn gwahanol rannau o Gymru ers yr 1960au, gan beri poendod i genedlaethau o bobl leol.

Myfyrwyr yn ysgrifennu ar nodiadau gludiog

Pobl ifanc yn arwain newid drwy brosiect newydd y Brifysgol Agored

Mae pobl ifanc yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr wedi datblygu hyder, sgiliau a syniadau newydd ar gyfer newid cymdeithasol, drwy brosiect ar y cyd a gyflwynwyd gan y Brifysgol Agored yng Nghymru a'i phartneriaid.