Bron i hanner busnesau Cymru yn adrodd prinder sgiliau ac yn brin o hyder ym maes deallusrwydd artiffisial a thechnoleg werdd

Staff busnes yn trafod prosiect o gwmpas bwrdd

  • Mae bron i hanner (47%) busnesau Cymru yn dweud eu bod yn cael trafferth gyda phrinder sgiliau, sy’n llawer llai na 62% o’r rheini yng ngweddill y DU
  • Nid oes gan nifer o fusnesau Cymru yr hyder i fabwysiadu naill ai deallusrwydd artiffisial (56%) neu dechnolegau gwyrdd (48%)
  • Mae Martha Lane Fox, Canghellor y Brifysgol Agored, a Llywydd Siambrau Masnach Prydain yn rhybuddio bod angen i sefydliadau weithredu cynlluniau sgiliau hyblyg a mentrau cynhwysol i fagu hyder, parhau i bontio’r bwlch sgiliau a chreu gweithlu mwy gwydn

Mae data newydd o adroddiad Baromedr Busnes eleni a gyhoeddwyd gan y Brifysgol Agored mewn partneriaeth â Siambrau Masnach Prydain, wedi canfod bod bron i hanner cyflogwyr Cymru (47%) yn dal i adrodd am brinder sgiliau sy’n peri pryder.

Mae’r adroddiad blynyddol, sy’n monitro cyd-destun sgiliau presennol y DU, yn dangos er bod y tirwedd yng Nghymru wedi gwella mwy na gwledydd eraill y DU yn ystod y 12 mis diwethaf, mae prinder sgiliau yn dal yn broblem gyffredin ar draws pob sector. Er hyn, mae llai nag un o bob 20 (6%) o sefydliadau yng Nghymru wedi rhoi cynllun sgiliau ysgrifenedig ar waith ar gyfer eu gweithlu eleni, gan lesteirio’r gallu i fynd i’r afael â’r materion hyn yn strategol a pharatoi ar gyfer gofynion yn y dyfodol. 

Yn benodol, mae sefydliadau wedi nodi diffyg hyder o ran defnyddio naill ai deallusrwydd (56%) artiffisial newydd neu dechnolegau gwyrdd (48%), sgiliau y mae cyflogwyr yn cytuno eu bod yn hanfodol i dwf a chynaliadwyedd busnesau Cymru a’r economi ehangach.  Mae prinder sgiliau a diffyg hyder yn parhau i gael effaith ddilynol ar forâl a lles staff, gan fod 60% o gyflogwyr yng Nghymru yn dweud bod prinder wedi cynyddu llwyth gwaith eu gweithwyr – dangosydd clir bod angen cynllun sgiliau strategol a chynhwysol ar gyflogwyr i ddatblygu talent i lenwi bylchau allweddol mewn sgiliau. 

Mae hyfforddiant a datblygiad yn feysydd ffocws hollbwysig i lawer o sefydliadau. Mae’r adroddiad wedi datgelu bod bron i ddwy ran o bump (37%) o fusnesau yn bwriadu cyflwyno hyfforddiant a datblygiad i staff dros y 12 mis nesaf, gyda chyrsiau byr ag ardystiad yn ddewis mwyaf poblogaidd i fusnesau yng Nghymru i helpu i ddatblygu sgiliau, yn ogystal â meithrin amgylchedd dysgu cefnogol i wella’r gwaith o ddenu, ymgysylltu a chadw gweithwyr. 

Yn galonogol, mae 75% o sefydliadau yng Nghymru sy’n defnyddio rhaglenni prentisiaeth ar hyn o bryd yn disgwyl cynyddu neu ymrwymo i’r un nifer o ddysgwyr dros y 12 mis nesaf, sy’n amlygu’r gwerth a roddir ar brentisiaethau fel ffordd o feithrin talent newydd a mynd i’r afael ag anghenion sgiliau penodol.

Dywedodd y Farwnes Martha Lane Fox CBE, Canghellor y Brifysgol Agored a Llywydd Siambrau Masnach Prydain:

"Er gwaethaf egin bach gwyrdd o welliant, mae'r bwlch sgiliau'n parhau'n ystyfnig o uchel. Mae Baromedr Busnes eleni yn dangos effaith yr her barhaus hon ar sefydliadau o bob math, gan gynnwys gorweithio, cynhyrchiant is, ac effaith ar les.

"Yr hyn sy’n peri pryder yw’r hyder difrifol o isel mewn deallusrwydd artiffisial a thechnoleg werdd a’r diffyg cynlluniau strategol neu fentrau i ymgysylltu â grwpiau hollbwysig sy’n cael eu tangynrychioli – y mae’r naill a’r llall yn hanfodol i fynd i’r afael â heriau allweddol ein dyfodol.

"Drwy feithrin strategaethau arloesol a mentrau cynhwysol, gallwn bontio’r bwlch sgiliau a chreu gweithlu mwy gwydn.”

Unwaith eto, mae cyflogwyr a busnesau yng Nghymru wedi dweud wrthym fod sgiliau a hyfforddiant yn allweddol i’w helpu i gwrdd â heriau’r dyfodol a rhoi hwb i’n heconomi. Yn y Brifysgol Agored yng Nghymru, mae llawer o’n ffocws dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod ar gefnogi busnesau i lywio’r byd ôl-covid trwy ddulliau arloesol fel cyrsiau byr, microgredentials a phrentisiaethau gradd. Gall dysgu yn y gweithle helpu pobl i gyrraedd eu potensial wrth iddynt ennill cyflog, yn ogystal â helpu sefydliadau i fynd i’r afael â’r bwlch sgiliau y mae’r Baromedr Busnes yn ei amlygu.

Dr Scott McKenzie
Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dysgu a Chwricwlwm yn Y Brifysgol Agored yng Nghymru

Request a prospectus

Explore our qualifications and courses by requesting one of our prospectuses today.

Request prospectus

Rhodri Davies 
Senior Communications Manager,
Telephone: 029 2167 4532

For general OU media enquiries please contact the press office -
Telephone: 01908 654316 /
Out of office hours: 07901 515891

Person mewn cot labordy yn edrych i mewn i ficrosgop

Mae angen i brifysgolion addasu i ymdopi â heriau deallusrwydd artiffisial, medd academydd y Brifysgol Agored yng Nghymru

Bydd llyfr newydd a gynhyrchwyd gan grŵp o academyddion y Brifysgol Agored yn archwilio sut y gall prifysgolion gefnogi myfyrwyr i ddefnyddio technoleg newydd, ac ymdopi â'r heriau a ddaw yn sgil deallusrwydd artiffisial i addysg uwch.

Stefan o flaen sgrin gyda'r logo Sandfish

Cwmni meddalwedd Abertawe yn buddsoddi mewn prentisiaethau

Ers cyfnod disgiau hyblyg ac argraffwyr dot-matrix, mae cenedlaethau o bobl wedi creu gyrfa ym maes datblygu meddalwedd.