Mynychais y lansiad arddangosfa BG Reach yn ystod fy ail wythnos gyda'r Brifysgol Agored yng Nghymru. Sylweddolais yn gyflym fod y prosiect hwn yn crynhoi sut mae'r Brifysgol Agored yn defnyddio dysgu i rymuso pobl a chymunedau. Wrth eistedd yn Amgueddfa Sain Ffagan, methais â dal y dagrau’n ôl wrth i mi wrando ar Pat yn siarad ar ran Grŵp Cymunedol Aberbîg. Ar ôl cael fy magu 15 munud i ffwrdd o Aberbîg, cefais fy nharo gan werth gweld eu creadigaethau artistig yn cael eu harddangos i bobl leol - i deimlo bod eu cymuned nid yn unig yn cael ei chynrychioli, ond yn cael ei dathlu mewn canolfan dreftadaeth genedlaethol. Nid oedd angen i mi boeni fy mod yn colli dagrau yn ystod fy ail wythnos yn y swydd gan nad fi oedd yr unig un!
Yr haf hwn, enillodd y prosiect BG Reach Wobr Cydnabyddiaeth Arbennig y Beirniaid ym maes Gwasanaeth Cynghori ar Gyfranogiad Tenantiaid (TPAS) Cymru. Roeddem eisoes yn falch iawn o'r prosiect ac mae’r wobr hon yn dangos sut yr effeithiodd yn gadarnhaol ar bawb a gymerodd ran, o bobl i berthnasoedd rhwng sefydliadau partner. Cynhaliodd y gymuned ddigwyddiad i ddathlu’r prosiect yng Nglynebwy dydd Llun hwn, fel rhan o Wythnos Ddysgu Oedolion.
Mae nifer o’r bobl rwyf wedi siarad â nhw am BG REACH yn ystod y chwe mis diwethaf wedi gofyn a fyddwn yn ymwneud â phrosiect tebyg eto. Byddem wrth ein bodd yn gwneud hynny ac rydym wedi cyflwyno cais am gyllid ar gyfer REACH Cymru. Os aiff popeth yn ôl y cynllun, bydd pum cymuned newydd ledled Cymru yn dechrau cydgynhyrchu’r prosiect ym mis Ionawr 2023.
Gweithiais gyda llawer o gyfranogwyr BG REACH i greu’r fideo hwn, sy’n egluro mwy am y prosiect.
Soniodd rai o’r bobl y fideo am sut mae’r prosiect wedi rhoi'r hyder iddynt roi cynnig ar bethau newydd. Ar y diwrnod y gwnaethom recordio'r fideo, roedd hyn yn glir. Blodeuodd bob un ohonynt ar y ffilm, ar ôl anogaeth ysgafn ar y cychwyn. Aeth un ddynes o lynu wrth fy llaw wrth i'r camera ddechrau recordio i brin adael i’r cyfwelydd gael dweud ei ddweud! Roedd y profiad mor drawiadol i'r criw ffilmio a minnau nes i mi unwaith eto orfod chwilio am hances - sy’n dangos grym dysgu, o’i wneud yn hygyrch.
Ochr yn ochr â dathlu gwobr TPAS, mae'r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi arwyddo memorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda Linc Cymru, un o’i phartneriaid ar y prosiect BG REACH. Mae'r cytundeb yn nodi sut y bydd y ddau sefydliad yn cydweithio yn y dyfodol, gan gynnwys:
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Rhodri Davies
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532
Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891
Beth mae Cymru yn ei olygu i chi? Ai ei thirwedd gyfoethog, ei thraddodiadau, neu ei threftadaeth ddiwydiannol? Neu, a yw'n fwy ynghylch Cymru gyfoes - boed hynny'n sgrech gitâr drydan, gorymdeithio mewn digwyddiad Pride, neu ddathlu ein sin gelfyddydol gyfoes?
Ddydd Sadwrn 28 Mawrth 2026, bydd AP Cymru a’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn lansio’r digwyddiad cymunedol Gofalu am Ofalwyr Cymru cyntaf erioed - diwrnod cyfan