Athrawon ieithoedd tramor newydd yng Nghymru i gael hyfforddiant ar raglen arloesol

Athro yn siarad â grŵp o fyfyrwyr wrth fwrdd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd ieithoedd tramor modern yn cael eu cynnig fel ail bwnc newydd ar ei thystysgrif ôl-raddedig mewn addysg (TAR), a ddarperir gan y Brifysgol Agored yng Nghymru.  

Yn dechrau ym mis Medi 2025, gall myfyrwyr ar y rhaglen TAR dwy flynedd o hyd nawr astudio ar gyfer y dystysgrif gyda ieithoedd tramor modern fel ail bwnc. Mae myfyrwyr graddedig yn derbyn statws athro cymwys (SAC) llawn, sy’n eu galluogi i addysgu mewn ysgol.  

Mae 275 o fyfyrwyr wedi cofrestru ar raglen y Brifysgol Agored yng Nghymru ar hyn o bryd, sy’n cynnwys 302 o ysgolion partner ym mhob ardal ar draws Cymru. Mae rhai myfyrwyr eisoes yn gyflogedig mewn ysgolion partner (llwybr cyflogedig), tra bod eraill yn gweithio mewn mannau eraill (llwybr rhan-amser) ac yn cymryd eu camau cyntaf i fyd addysg fel gyrfa.  

Ers 2020, mae cwrs TAR y Brifysgol Agored yng Nghymru wedi bod ar gael ar gyfer ystod o bynciau uwchradd eraill, yn ogystal ag addysgu ysgol gynradd, a gellir ei astudio yn Gymraeg neu Saesneg. Ar y llwybr cyflogedig yn benodol, mae pum deg y cant o gyllid grant ar gael ar gyfer astudio drwy gyfrwng y Saesneg ar lefel uwchradd, ac mae 100% o’r cyllid ar gael ar gyfer astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.  

'Proffesiwn gwych'

'Mae addysgu yn broffesiwn gwych, a bydd yr estyniad hwn o raglen TAR gan y Brifysgol Agored a’r ffordd hyblyg y caiff ei chyflwyno yn caniatáu i fwy o bobl ddechrau ar yr yrfa wych hon, meddai Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. 'Rwy’n gobeithio y bydd y cwrs newydd a chyffrous hwn yn ysbrydoli athrawon y dyfodol i archwilio’r proffesiwn hwn, a hefyd codi proffil ieithoedd tramor modern.'

'Ers 2020, mae ein rhaglen TAR wedi mynd o nerth i nerth, a bydd cyflwyno ieithoedd tramor modern yn agor y drws i fwy o bobl sydd wedi ystyried addysgu fel gyrfa,' dywedodd Dr Sarah Stewart, Cyfarwyddwr rhaglen TAR y Brifysgol Agored yng Nghymru. 'Yn gynyddol, mae athrawon y dyfodol yn gweld budd astudio’n hyblyg dros ddwy flynedd, sy’n caniatáu iddynt gyfuno’r cwrs â gwaith ac ymrwymiadau teuluol. Mae hyn oll wedi bod yn bosib, diolch i’n staff a’n myfyrwyr, heb sôn am y berthynas wych sydd gennym gyda Llywodraeth Cymru, sector addysg Cymru ac ysgolion ym mhob rhan o’r wlad.'

Mae Gemma Zeeman o Gaerdydd wedi cwblhau ei chymhwyster TAR gyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru, ac yn ddiweddar mynychodd seremoni raddio yn yr ICC yng Nghasnewydd.  

Dewisais astudio’r cwrs TAR yn y Brifysgol Agored yng Nghymru gan fod y cwrs rhan-amser yn newid bywyd yn gyfan gwbl,' meddai Gemma. 'Nid wyf yn sicr y gallwn fod wedi ei gwblhau mewn blwyddyn. Rhoddodd gydbwysedd i mi ac amser gyda fy merch, yn union fel oedd ei angen arnaf.' 


Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn athro?

Bydd ein cwrs TAR dwy flynedd yn caniatáu i chi ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC) ar gyfer naill ai'r lefel ysgol gynradd neu uwchradd, a gellir ei astudio yn unrhyw le yng Nghymru, trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg.

Dysgwch fwy

Athro gyda disgyblion

Request your prospectus

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Open University in Wales media enquiries:

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891

Coffi a biscedi ar fwrdd

Cydweithrediad y Brifysgol Agored gyda'r Talking Shop

Ar 28 Chwefror bydd y Brifysgol Agored (OU) yng Nghymru yn cyd-gynnal yn y Siop Siarad yn y Coed Duon, ac eisiau clywed gan bobl ifanc (16-25).

Mae’r Brifysgol Agored yn gweithio gydag Undeb Rygbi Cymru i hyrwyddo rygbi ledled Cymru

Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn gweithio gydag Undeb Rygbi Cymru (WRU) i asesu effaith ehangach un o’i rhaglenni yn ysgolion Cymru.