Adroddiad newydd yn dangos gwerth graddau mewn y celfyddydau a dyniaethau i Gymru

Silff lyfrau

Mae papur newydd wedi herio rhagdybiaethau o raddau’r celfyddydau a’r dyniaethau, gan ddangos y gwerth y maent yn ei roi i’r economi a chymdeithas. 

Mae Newid y naratif: rhoi gwerth ar raddau yn y Celfyddydau a'r Dyniaethau, a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru ar ran y Brifysgol Agored, yn amlygu pwysigrwydd sgiliau trosglwyddadwy y gall graddedigion y celfyddydau a’r dyniaethau eu cyflwyno i’r gweithle – gan gynnwys meddwl yn greadigol, meddwl dadansoddol, a llythrennedd technolegol.  

Ysgrifennwyd y papur gan Dr Richard Marsden a Dr Anna Plassart, uwch ddarlithwyr mewn Hanes yng Nghyfadran y Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol Agored. Mae’n dilyn digwyddiad yng Nghaerdydd yn gynharach eleni, a gefnogwyd gan y Gymdeithas Ddysgedig a History UK, lle daeth academyddion, cyflogwyr, myfyrwyr a melinau trafod ynghyd i drafod sut mae graddedigion yn y sector hwn yn gwrth-ddweud rhai o’r naratifau camarweiniol am eu rhagolygon cyflogaeth.

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae wyth o’r deg sector sy’n tyfu gyflymaf yn economi’r DU wedi cyflogi mwy o raddedigion o’r celfyddydau, y dyniaethau a hefyd y gwyddorau cymdeithasol nag o unrhyw ddisgyblaethau eraill. Mae meddu ar sgiliau trosglwyddadwy hefyd yn golygu bod gan raddedigion y celfyddydau a’r dyniaethau fwy o ddewisiadau gyrfa a mwy o hyblygrwydd o fewn y gweithlu na rhai llawer o ddisgyblaethau eraill.

Dr Richard Marsden, uwch ddarlithydd
Y Brifysgol Agored yng Nghymru

Mae'r papur yn argymell bod prifysgolion yn gweithio gyda chyflogwyr i helpu myfyrwyr y celfyddydau a’r dyniaethau i fynegi gwerth eu graddau, yn ogystal â gweithio gydag ysgolion i leihau'r gostyngiad yn y rhai sy'n dewis graddau yn y meysydd hyn.

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891

Erin

‘Ystyriwch astudio am radd hyblyg’ meddai’r Brifysgol Agored ar ddiwrnod canlyniadau Lefel A

Mae'r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi annog pobl ifanc i ystyried astudio gradd hyblyg, os ydyn nhw'n teimlo nad yw prifysgol draddodiadol ar eu cyfer nhw.

Pobl yn siarad wrth fwrdd

Llenwi’r Bwlch: Diffyg Cysylltiad Rhwng Sgiliau Cyflogwyr a’r Genhedlaeth Z

Mae cyflogwyr yng Nghymru’n parhau i wynebu prinder sylweddol mewn sgiliau - ond mae adroddiad newydd gan y Brifysgol Agored yn datgelu bod pobl ifanc yn barod i ddysgu ac eisiau cyfrannu.