Mae'r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi annog pobl ifanc i ystyried astudio gradd hyblyg, os ydyn nhw'n teimlo nad yw prifysgol draddodiadol ar eu cyfer nhw.
Mae data diweddar yn dangos bod Cymru, o bob un o wledydd y DU, wedi profi’r twf uchaf yn nifer y myfyrwyr y Brifysgol Agored rhwng 18 a 25 oed, gan gynyddu 77% ers 2018.
Mae Erin, 20 oed, o Gaerdydd, yn astudio am radd israddedig mewn Athroniaeth ac Astudiaethau Seicolegol gyda'r Brifysgol Agored. Gyda chymwysterau Lefel A mewn seicoleg, addysg grefyddol a bioleg, roedd hyn yn rhywbeth a oedd yn cyd-fynd â'i diddordebau.
Ar ôl astudio am flwyddyn a hanner mewn prifysgol gampws, sylweddolodd nad oedd y cwrs a'r fformat yn addas iddi, a dychwelodd adref i Gaerdydd. Mae ei thaid, Martin, yn gyn-ddarlithydd i’r Brifysgol Agored. Awgrymodd iddi roi cynnig i’r brifysgol fel opsiwn arall.
Mae Erin wedi dewis llwybr hyblyg, wrth iddi reoli ei hastudiaethau wrth ochr swydd fel cynorthwyydd dysgu.
“Rwy’n gweld hyn yn gymharol hawdd i reoli,” meddai Erin. “Mae gen i fy nhrefn ddyddiol. Dw i’n mynd i’r gampfa cyn gwaith, a phan dw i’n dod yn ôl gyda’r nos, gallaf astudio am awr cyn i mi wneud fy nghinio. Dyna’r hyblygrwydd mae’r Brifysgol Agored yn ei roi i mi.”
“Rwy’n lwcus fy mod yn ennill cyflog wrth astudio pwnc rwy’n ei garu. Hoffwn fynd ymlaen i fod yn athro ysgol gynradd neu’n weithiwr cymdeithasol. Rwy’n credu y gall fy mhrofiad gwaith ochr yn ochr â’m gradd helpu gyda hyn.”
Mae newidiadau mewn dewisiadau dysgu yn esboniad posibl am y cynnydd mewn dysgwyr iau yn y Brifysgol Agored.
Dywedodd Ben Lewis, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru:
Rwy’n lwcus fy mod yn ennill cyflog wrth astudio pwnc rwy’n ei garu.
Erin
“Mae rhai o’r myfyrwyr iau rydyn ni’n siarad â nhw’n dweud wrthym eu bod nhw eisiau mwy o hyblygrwydd. Mae llawer yn dewis astudio modiwlau rhwng teithio i wahanol wledydd, neu ddilyn cyfleoedd gwaith newydd. Yn gynyddol, mae cyflogwyr hefyd eisiau apwyntio graddedigion a all ddangos bod ganddyn nhw’r cydbwysedd o gyflawniad academaidd, ochr yn ochr â phrofiadau gwaith a bywyd.
“Wrth i fyfyrwyr ystyried opsiynau yn dilyn eu canlyniadau Lefel A, rydym yn annog pobl i feddwl am yr hyn y gallai llwybr astudio hyblyg ei gynnig iddynt.
“Ac nid dim ond y rhai sy’n cael canlyniadau heddiw all elwa. Nid oes gan y rhan fwyaf o’n cyrsiau unrhyw gymwysterau mynediad blaenorol, felly mae cyfle i unrhyw un gael gradd hyblyg waeth beth fo’u hoedran neu’u profiad blaenorol.”
Mae Erin yn teimlo ei bod yn drueni na chafodd y Brifysgol Agored ei hawgrymu iddi fel opsiwn yn y chweched dosbarth, gan y byddai hyn wedi bod yn addas i rai myfyrwyr.
“Mae cymaint o ddewis gyda’r Brifysgol Agored,” meddai. “Mae’n anghywir i ddweud nad yw’n gystal. Mae’r graddau’r un mor werthfawr ag unrhyw le arall, ac rydyn ni’n cael cefnogaeth wych gan diwtoriaid. Roedd fy nhaid o hyd yn pwysleisio y gallwch chi wneud cymaint gyda gradd fel hyn. Gall agor llawer o ddrysau.”
Er gwaethaf ei phryderon y byddai'n colli allan ar hwyl prifysgol gampws, mae gan Erin fywyd cymdeithasol prysur, ac mae'n dal i weld ei ffrindiau'n rheolaidd.
“Daethant yn ôl i Gaerdydd am wythnosau ar y tro yn ystod y Nadolig, y Pasg a’r haf, ac mae llawer bellach wedi symud yn ôl yma ar ôl graddio. Mae’n wych fy mod i’n dal i allu treulio amser gyda nhw rhwng fy astudiaethau.”
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw