Academydd y Brifysgol Agored yn trafod comedau a whisgi Cymreig yn nigwyddiad y Senedd

 Dr Geraint Morgan yn traddodi araith wrth ddarllenfa

Ar brynhawn dydd Mawrth 13 Fehefin, ymunodd y Brifysgol Agored yng Nghymru â’r Gymdeithas Gemeg Frenhinol yn Senedd Cymru ar gyfer ei digwyddiad flynyddol Gwyddoniaeth yn y Senedd. Roedd yr arddangosfa yn cynnwys sefydliadau ar draws cymuned wyddoniaeth a pheirianneg Cymru, wedi’i chynllunio i hybu cydweithrediad rhwng gwyddonwyr a llunwyr polisi. Roedd digwyddiad eleni'n canolbwyntio ar ‘STEM yn gyrru’r economi; ac a oes gennym ni’r gweithlu STEM ar gyfer y dyfodol?’

Rhoddodd Dr Geraint Morgan o'r Brifysgol Agored sgwrs o’r enw Traed ar y ddaear: O synhwyro comedau a meteorynnau i longau tanfor a Wisgi Cymreig. Cafodd gwmni yr Athro Jas Pal Badyal, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru, a roddodd brif araith, a noddwr y digwyddiad David Rees AS.

Mae Dr Morgan yn weithgar ym myd cemeg ddadansoddol a thechnoleg y gofod yn y Brifysgol Agored. Ymhlith peth o’i waith mae e wedi:

  • datblygu offer ar gyfer teithiau gofod Rosetta a Beagle2
  • dadansoddi comed yn llwyddiannus
  • arwain timau ymchwil i ddatblygu ystod o ddatrysiadau effaith uchel sy’n tarfu ar y sector ar gyfer heriau daearol
  • datblygu systemau monitro ansawdd aer sydd wedi ennill gwobrau i’w defnyddio ar holl longau tanfor y DU yn y dyfodol.

Digwyddiad gwyddoniaeth yn y Senedd

Yn fwy diweddar mae Dr Morgan wedi gweithio gyda diwydiannau sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru, gan gynnwys y cwmni wisgi In the Welsh Wind o Geredigion.

Dywedodd Michelle Matheron, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Materion Allanol yn y Brifysgol Agored yng Nghymru

"Mae’r digwyddiad blynyddol gyda’r Gymdeithas Gemeg Frenhinol yn rhoi cyfle gwych i’r Brifysgol Agored yng Nghymru arddangos ein hymchwil wyddonol ac i dynnu sylw at bwysigrwydd pynciau STEM i economi Cymru. Mae ymchwil Dr Morgan a’i weithgareddau cyfnewid gwybodaeth yn dangos cymwysiadau bywyd go iawn dechnoleg y gofod ac mae’n wych gweld hyn yn gwneud gwahaniaeth i fusnesau Cymru.”

Request your prospectus

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Open University in Wales media enquiries:

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891

Coffi a biscedi ar fwrdd

Cydweithrediad y Brifysgol Agored gyda'r Talking Shop

Ar 28 Chwefror bydd y Brifysgol Agored (OU) yng Nghymru yn cyd-gynnal yn y Siop Siarad yn y Coed Duon, ac eisiau clywed gan bobl ifanc (16-25).

Mae’r Brifysgol Agored yn gweithio gydag Undeb Rygbi Cymru i hyrwyddo rygbi ledled Cymru

Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn gweithio gydag Undeb Rygbi Cymru (WRU) i asesu effaith ehangach un o’i rhaglenni yn ysgolion Cymru.