AaGC i ariannu lleoedd nyrsio newydd i fyfyrwyr yn y Brifysgol Agored yng Nghymru

Nyrsys

Penodwyd y Brifysgol Agored yng Nghymru gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) i hyfforddi myfyrwyr nyrsio newydd.

Mae cynllun gradd nyrsio’r Brifysgol Agored yn caniatáu i gynorthwywyr gofal iechyd astudio’n hyblyg ar gyfer gradd nyrsio, wrth barhau i weithio yn eu hysbyty lleol neu mewn cartref gofal.

Mae’r cwrs yn cynnwys bob un o’r pedwar maes nyrsio: oedolion; iechyd meddwl; anableddau dysgu; a phlant a phobl ifanc.

Gan ddechrau ym mis Hydref 2024, bydd y cytundeb ag AaGIC yn ariannu uchafswm o 130 o leoedd nyrsio'r flwyddyn. Blwyddyn yw’r cyfnod contract cychwynnol, gydag opsiwn i ymestyn hynny am ddwy flynedd arall.

Sefydlwyd rhaglen nyrsio’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn 2018. Trwy blatfform dysgu o bell y Brifysgol Agored, gall myfyrwyr ddysgu’n hyblyg ochr yn ochr â’u swydd, gan gyfuno theori ac ymarfer.

Ymhlith nodweddion allweddol y rhaglen y mae:

  • dysgu ar-lein trwy amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol Agored, sydd wedi ennill sawl gwobr, ynghyd â thiwtorialau rhyngweithiol gan ddefnyddio Adobe Connect
  • tiwtoriaid academaidd a thiwtoriaid ymarfer yn cefnogi myfyrwyr trwy gydol eu hastudiaethau a gyda’u gwaith dysgu yn y gweithle
  • cwricwlwm modern sy’n seiliedig ar yr ymchwil ddiweddaraf ym maes gofal iechyd
  • adnoddau dwyieithog a grwpiau dysgu cyfrwng Cymraeg a Saesneg
  • cefnogi grwpiau nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol i ymgeisio, neu i gyflawni’r cymwysterau y mae eu hangen arnynt i gael mynediad i’r rhaglen trwy bartneriaeth â Choleg Caerdydd a’r Fro.

'Mae’r cytundeb newydd hwn gydag AaGIC yn garreg filltir arwyddocaol i’r Brifysgol Agored yng Nghymru. Un o’r pethau sy’n ein hamlygu fel darparwr yw ein bod yn hyfforddi nyrsys ar gyfer Cymru gyfan,' dywedodd Dr Linda Walker, Rheolwr Cenedlaethol Cymru yng Nghyfadran Lles, Addysg ac Astudiaethau Iaith y Brifysgol Agored. 'Bydd myfyrwyr yn astudio gartref ac yn ennill profiad nyrsio ymarferol trwy weithio mewn lleoliadau gofal iechyd lleol priodol. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid iddyn nhw fynd i rywle arall i astudio, a’u bod yn gallu parhau i wasanaethu eu cymuned leol.'

'Mae gennym berthynas wych gyda byrddau iechyd, ymddiriedolaethau a darparwyr gofal iechyd lleol yng Nghymru. Rydym wedi datblygu dull arloesol o alluogi dysgu o bell, ac rydym yn rhoi’r myfyriwr wrth wraidd ein dysgu - sy’n rhywbeth sy’n ennyn y gorau ynddyn nhw, ac yn eu helpu i gyflawni eu potensial.'

'Mae’n bleser gennym weithio gyda’r Brifysgol Agored i helpu i gynyddu cyfleoedd i weithwyr cymorth cyflogedig hyfforddi i ddod yn nyrsys cofrestredig,' dywedodd llefarydd ar ran AaGIC. 'Mae ehangu mynediad at addysg gweithwyr proffesiynol gofal iechyd yn bwysig i AaGIC, wrth inni geisio diwallu gofynion gweithlu y sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.'

Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch ymgeisio ar gyfer cynllun gradd nyrsio’r Brifysgol Agored, ar gyfer mis Hydref 2024 neu Chwefror 2025 yma.

Request your prospectus

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Open University in Wales media enquiries:

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891

Coffi a biscedi ar fwrdd

Cydweithrediad y Brifysgol Agored gyda'r Talking Shop

Ar 28 Chwefror bydd y Brifysgol Agored (OU) yng Nghymru yn cyd-gynnal yn y Siop Siarad yn y Coed Duon, ac eisiau clywed gan bobl ifanc (16-25).

Mae’r Brifysgol Agored yn gweithio gydag Undeb Rygbi Cymru i hyrwyddo rygbi ledled Cymru

Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn gweithio gydag Undeb Rygbi Cymru (WRU) i asesu effaith ehangach un o’i rhaglenni yn ysgolion Cymru.