Mae digwyddiad cymunedol yn ystod yr hydref wedi helpu i ddathlu un o gymunedau mwyaf adnabyddus Cymru – y Gurnos ym Merthyr Tudful.
Daeth Dathlu Ein Gurnos â thrigolion ynghyd i siarad am eu hardal, i goffáu’r hyn sy’n ei gwneud yn arbennig, a thrafod sut yr hoffent iddi edrych yn y dyfodol. Ymhlith rhai o’r materion cyffredin yr oeddent yn eu trafod oedd graffiti, sbwriel, esgeuluso mannau gwyrdd – yn ogystal â’u balchder yn y Gurnos.
Bu dros 500 o bobl cymryd rhan mewn dros 45 o weithdai a gweithgareddau. Roedd 17 o sefydliadau partner a gweithwyr proffesiynol lleol hefyd yn cefnogi'r diwrnod.
Cynlluniwyd y digwyddiad yn dilyn cydweithrediad rhwng Y Brifysgol Agored yng Nghymru, cyfadran Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) y Brifysgol Agored, a sefydliadau lleol fel Cyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful, Cartrefi Cymoedd Merthyr a phrosiect Llethrau Llon Cyfoeth Naturiol Cymru.
Trwy broses a elwir yn groesbeillio dan arweiniad y gyfadran, penderfynodd y sefydliadau partner ddefnyddio dulliau creadigol megis collage, adrodd straeon a phaentio i glywed gan drigolion.
Mae'r blogbost hwn gan Katerina Alexiou (uwch ddarlithydd STEM) yn esbonio mwy am y prosiect croesbeillio..
‘Roedd Ein Gurnos yn wir ddathliad o’r ardal a’r bobl,’ meddai Sarah Roberts, cydlynydd partneriaethau’r brifysgol. ‘Yn dilyn proses ddylunio ar y cyd hynod gadarnhaol gyda sefydliadau ym Merthyr, roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn cymryd rhan yn y gweithgareddau creadigol ac yn rhannu eu profiadau.’
‘Rydym wedi dysgu llawer o’r broses hon ac yn awyddus i weld sut y gall siapio’r gwaith rydym yn ei wneud gyda lleoedd eraill yng Nghymru.’
Roedd Dathlu Ein Gurnos yn rhan o faes gwaith sy’n gysylltiedig â phrosiect Creu Cyffro – rhaglen hyfforddi diwydiannau creadigol ym Merthyr Tudful a ariennir gan Gronfa Adnewyddu Cymunedol Llywodraeth y DU.
Ochr yn ochr â’r digwyddiad, cyflwynodd y Brifysgol Agored yng Nghymru dri llinyn arall o waith hefyd, gan gynnwys gweithdai rhith-realiti, cerddoriaeth, ac ysgrifennu creadigol ar draws Merthyr Tudful.
Dyma ragor o wybodaeth am waith y Brifysgol Agored yng Nghymru drwy Creu Cyffro:
Mae Creu Cyffro wedi arwain gan Lles Merthyr. Mae'r Brifysgol Agored yn un o 10 partner cyflawni.
I glywed mwy am y rhaglen, gwrandewch ar bodlediad Creu Cyffro.
Explore our qualifications and courses by requesting one of our prospectuses today.
Rhodri Davies
Senior Communications Manager,
Telephone: 029 2167 4532
For general OU media enquiries please contact the press office -
Telephone: 01908 654316 /
Out of office hours: 07901 515891
Bydd llyfr newydd a gynhyrchwyd gan grŵp o academyddion y Brifysgol Agored yn archwilio sut y gall prifysgolion gefnogi myfyrwyr i ddefnyddio technoleg newydd, ac ymdopi â'r heriau a ddaw yn sgil deallusrwydd artiffisial i addysg uwch.
Ers cyfnod disgiau hyblyg ac argraffwyr dot-matrix, mae cenedlaethau o bobl wedi creu gyrfa ym maes datblygu meddalwedd.