Mae’r flwyddyn academaidd newydd ar fin dechrau. Os ydych yn cael cyllid trwy gyfrwng Cyllid Myfyrwyr Cymru, hoffem rybuddio ein myfyrwyr i fod yn wyliadwrus o sgamiau.
Mae troseddwyr yn defnyddio sgamiau i dargedu myfyrwyr er mwyn ceisio cael gafael ar eu gwybodaeth bersonol, fel eu henw defnyddiwr, eu manylion banc a’u cyfrineiriau.
Os ydych ar fin cael cyllid gan Gyllid Myfyrwyr Cymru, byddwch yn wyliadwrus ac yn ymwybodol o sgamiau posibl.
Bydd troseddwyr yn ceisio defnyddio tair sgam wahanol, sef: ‘gwe-rwydo’, ‘SMS-rwydo’ a ‘llais-rwydo’.
Gall y sgamiau hyn ddigwydd ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn academaidd, ond mae dyddiadau talu ar ddechrau’r tymor yn gyfnodau poblogaidd. Isod, fe welwch rai awgrymiadau ar gyfer sut i adnabod sgamiau.
Yn aml, mae camsillafu, gramadeg gwael neu atalnodi gwael yn arwydd o sgamiau ‘gwe-rwydo’. Tueddir i anfon e-byst neu negeseuon testun twyllodrus mewn sypiau er mwyn targedu llawer o bobl, a go brin y byddant yn cynnwys eich enw. Efallai y byddant yn dechrau gydag ‘Annwyl Fyfyriwr’ neu ‘Annwyl Ddefnyddiwr’.
Yn achos e-byst, negeseuon testun neu alwadau ffôn twyllodrus, nodir bod angen ymateb iddynt ‘ar frys’, ac yn aml gofynnir ichi glicio ar ddolen i ddilysu eich cyfrif neu gofynnir ichi ddarparu gwybodaeth – heb ichi wneud hynny, bydd eich ‘cyfrif yn cael ei gau o fewn 24 awr’. Mae’r mathau hyn o negeseuon yn ceisio creu panig fel ffordd o roi pwysau arnoch i ddarparu gwybodaeth bersonol.
Os cewch neges gan rywun nad ydych yn siŵr ohono, peidiwch â theimlo dan bwysau i ddarparu’r manylion y gofynnir amdanynt. Gallwch wastad chwilio am wybodaeth gyswllt swyddogol ar gyfer y cwmni cyllid myfyrwyr trwy edrych ar y wefan. Os gwelwch ddolen amheus mewn e-bost, gallwch hofran uwch ei phen i weld i ble y bydd yn eich tywys yn hytrach na chlicio arni. Y peth gorau i’w wneud bob amser yw mynd i lygad y ffynnon yn hytrach na dewis dolen beryglus.
Mae sgamwyr yn edrych ar wybodaeth bersonol sydd wedi’i phostio ar y cyfryngau cymdeithasol neu mewn mannau eraill ar-lein. Argymhellir na ddylech ddarparu mathau arbennig o wybodaeth ar-lein, fel eich enw olaf, eich dyddiad geni, eich cyfeirnod cwsmer neu eich cyfeiriadau. Os oes modd, peidiwch â rhannu ar-lein unrhyw ddyddiadau talu rydych wedi’u cael gan y cwmni cyllid myfyrwyr.
Gallwch ddod o hyd i ragor o ganllawiau ar adnabod sgamiau trwy gyfrwng y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr (SLC) ar GOV.UK. Os cewch neges a allai, yn eich tyb chi, fod yn sgam, gallwch roi gwybod i uned Troseddau Economaidd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr. Y cyfeiriad e-bost yw [email protected]. Hefyd, gallwch ffonio’r llinell gymorth bwrpasol ar 0300 100 0059.
Gallwch ddod o hyd i ragor o ganllawiau cyffredinol ar dwyll a seiberdroseddu yma:
Mae’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn goruchwylio cyllid myfyrwyr ar ran y llywodraeth a gweinyddiaethau datganoledig y DU. Y cwmni hwn yw rhiant-sefydliad Cyllid Myfyrwyr Lloegr (SFE), Cyllid Myfyrwyr Cymru (SFW) a Chyllid Myfyrwyr Gogledd Iwerddon (SFni).
_0.png)
Rydym eisiau ichi lwyddo yn eich astudiaethau gyda’r Brifysgol Agored, a chyrraedd eich potensial. Gwyddom fod dysgu o bell yn ffordd wych o gyfuno addysg gyda gwaith ac ymrwymiadau teuluol, ond nid ydym eisiau ichi deimlo eich bod ar eich pen eich hun.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Rhodri Davies
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532
Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891
Dyma ddiweddariad ar rywfaint o’r gwaith y mae ein cynghorwyr cyflogadwyedd wedi ei wneud yn ddiweddar i baratoi ein myfyrwyr ar gyfer y byd gwaith.
Milwr wedi ymddeol sy’n frwdfrydig dros hanes, a rhiant i bedwar sydd ar fin dechrau gradd Feistr mewn Adnoddau Dynol - dim ond dau o’r graddedigion gwnaethom eu cyfarfod heddiw.