Pobl ifanc yn arwain newid drwy brosiect newydd y Brifysgol Agored

Myfyrwyr yn ysgrifennu ar nodiadau gludiog

Mae pobl ifanc yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr wedi datblygu hyder, sgiliau a syniadau newydd ar gyfer newid cymdeithasol, drwy brosiect ar y cyd a gyflwynwyd gan y Brifysgol Agored yng Nghymru a'i phartneriaid.

Cynlluniwyd Academi Newid Cenedlaethau'r Dyfodol Newid, a gyflwynir wth ochr Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, ac Unloc, i gefnogi dysgwyr Addysg Bellach 16–25 oed i ddatblygu'r sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau.

Gwerthuso'r prosiect

Canfu gwerthusiad o'r peilot, a ysgrifennwyd gan Dr Donna Smith o'r Brifysgol Agored, fod cyfranogwyr wedi nodi gwybodaeth gynyddol am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, sgiliau arweinyddiaeth cryfach, a mwy o hyder i ysgogi newid. Dywedodd yr holl fyfyrwyr a gymerodd ran mewn grŵp ffocws terfynol eu bod yn teimlo'n fwy effeithiol fel ysgogwyr newid ar ôl cwblhau'r rhaglen.


 

 

 

Adroddiad gwerthuso Newid

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn (PDF, 2.3 MB)

Lawrlwytho

Darllenwch yr adroddiad cryno


Darparu'r rhaglen

Cyfunodd y rhaglen wersylloedd hyfforddi wyneb yn wyneb, sesiynau ar-lein, siaradwyr gwadd a gwaith prosiect annibynnol. Archwiliodd y myfyrwyr arweinyddiaeth, dinasyddiaeth weithredol, democratiaeth, siarad cyhoeddus a gweithredu cymdeithasol cyn dylunio eu prosiectau ysgogi newid eu hunain.

Roedd prosiectau a ddatblygwyd gan gyfranogwyr yn cynnwys syniadau a oedd yn canolbwyntio ar lesiant myfyrwyr, chwaraeon cynhwysol, cynrychiolaeth LGBTQIA+, hawliau anifeiliaid, a gwella mynediad at weithgarwch corfforol fel ffordd o gefnogi iechyd meddwl. 

Roedd yr Academi wedi’i gwreiddio yn amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, felly roedd yn wych gweld bod y cyfranogwyr wedi dangos dealltwriaeth gynyddol o’r ddeddf, yn ogystal â chynnydd mewn hyder a sgiliau arweinyddiaeth. Drwy ddarparu siaradwyr gwadd o ansawdd uchel a gwahanol ffyrdd o addysgu, helpodd tîm y prosiect y dysgwyr i deimlo’n fwy effeithiol fel ysgogwyr newid.

Dr Donna Smith Y Brifysgol Agored


Mae'r Brifysgol Agored yn cefnogi'r Nodau Datblygu Cynaliadwy.

  • Nod Datblygu Cynaliadwy 4 ‘Sicrhau addysg o ansawdd cynhwysol a chyfartal a hyrwyddo cyfleoedd dysgu gydol oes i bawb’
  • Nod Datblygu Cynaliadwy 10 ‘Lleihau anghydraddoldebau’
  • Nod Datblygu Cynaliadwy 16 ‘Hyrwyddo cymdeithasau heddychlon a chynhwysol ar gyfer datblygu cynaliadwy, darparu mynediad at gyfiawnder i bawb ac adeiladu sefydliadau effeithiol, atebol a chynhwysol ar bob lefel’

SDG 4, 10 and 16

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891

Stacey and Alice

Tu ôl i'r llenni gyda Llwybrau: llunio cynnydd o’r cychwyn cyntaf yn Rhondda Cynon Taf

Yn y sesiwn holi ac ateb hon, cawn glywed gan Stacey Pring, Rheolwr Partneriaethau, ac Alice Tetstall, Swyddog Prosiect, sydd yn dweud mwy wrthym am sut mae Llwybrau yn helpu pobl.

Jack yn hyfforddi pêl-droed gydag Iniesta

Cyn-fyfyriwr y Brifysgol Agored yn dysgu gan Iniesta

O hyfforddi ar lawr gwlad, i ddysgu gan Andrés Iniesta: rydym yn sgwrsio â myfyriwr graddedig y Brifysgol Agored sydd â stori anhygoel