Un peth sy’n gyffredin i bawb ohonom yw bod gennym, fel plant, weledigaeth neu gynllun o sut y bydd ein bywyd yn edrych. Faint ohonom all ddweud bod ein bywyd wedi digwydd yn union fel y gwnaethom ei gynllunio? I mi, yr ateb i’r cwestiwn hwnnw yw nad oedd hyd yn oed yn agos. Roeddwn i’n mynd i fynd i’r coleg, yna i’r brifysgol a dod yn Seicolegydd Addysgol. Yna dechreuais bendroni lle a phryd y crwydrodd fy mywyd go iawn oddi wrth y cynllun oedd gennyf ar ei gyfer. Nid yw nodi’r pwynt hwn bob amser yn hawdd, nes ichi feddwl amdano’n iawn.
I mi, dechreuodd y pwynt hwnnw yn ystod fy mlynyddoedd ysgol. Roedd yn ymddangos fy mod yn gwneud yn dda yn y dosbarthiadau ond pan ddaeth yr arholiadau, roeddwn i’n lwcus o basio. Ar y dechrau, ni feddyliais ddim o’r peth, gan y gallai fod nad oeddwn wedi deall cystal ag oeddwn i’n meddwl fy mod i. Yr arwydd cyntaf amlwg iawn o hyd oedd yr arholiadau 11+. Y rhai brawychus rydych chi’n eu cael cyn mynd i’r ysgol uwchradd. Gwnes i wir wneud yn ofnadwy. Cyn gynted ag y gadewais y neuadd arholiad, roeddwn i’n gwybod y byddwn i’n lwcus i’w basio.
Yna rydym ni’n mynd i’r ysgol uwchradd, ac mae’r arholiad 11+ brawychus hwnnw’n penderfynu ar eich grŵp neu set. Cefais fy rhoi mewn set y nodwyd yn gyflym iawn fel y set anghywir i mi. Newyddion da, ond serch hynny, doedd yr arholiadau ddim yn ffrind i mi. Yr arholiad dychrynllyd nesaf yn fy nyfodol oedd SATs, ac yna’r TGAU mawreddog. Roeddem yn cael ein cyflyru i boeni llawer am TGAU. Fel yr oedd llawer o athrawon yn ei ddweud, byddant yn pennu eich bywyd a’r hyn y gallwch ei wneud ac na allwch ei wneud. Dim pwysau i mi yn fy arddegau felly! Rhywsut, llwyddais i’w gorffen - o drwch blewyn - yna daeth y coleg. Eto, roedd yn ymddangos fy mod yn deall yn ystod y darlithoedd ac yn cael canlyniadau da yn ystod aseiniadau, ond yr arholiadau - na - ni allwn basio am bris yn y byd. O ganlyniad, roedd yn rhaid imi ailadrodd blwyddyn a oedd yn addysgu’r hyn roeddwn eisoes yn ei wybod imi, felly penderfynais adael.
Nid diflastod oedd fy mhrif reswm dros adael, ond y teimlad, waeth faint oeddwn i eisiau gradd, nad oeddwn i’n ddigon clyfar i’w hennill mewn gwirionedd. Dim ond breuddwyd na fyddai byth yn digwydd oedd cael gradd i mi. Gydag amser, aeth y cwestiwn pam y gallwn gael marciau cystal drwy gydol y flwyddyn, ac yna marciau ofnadwy mewn arholiadau, yn angof wrth imi fyw fy mywyd.
Ond pan ddechreuais mewn swydd newydd, gofynnodd fy rheolwr imi, “Beth yw dy drefniadau ar gyfer dy dyslecsia?”. Edrychais yn ddryslyd arni gan nad oeddwn wedi cael diagnosis o ddyslecsia. Dywedodd wrthyf ei bod yn gweld yr holl arwyddion ynof y mae hi’n gwybod sy’n nodi dyslecsia, ac er nad oeddwn i’n gwybod cynt, rwy’n gwybod nawr. Ar ôl sgwrs hir ac emosiynol, gwnaethom gynllun i fy helpu a’m cefnogi.
Gwnaeth hyn hefyd ysgogi sgwrs onest gyda fy rhieni, pan gefais wybod eu bod wedi cael cais imi gael fy mhrofi. Roedd hyn dros 20 mlynedd yn ôl, a gwnaethant wrthod yr adeg honno. Ar y pryd, nid oeddent eisiau imi gael y stigma negyddol o fod yn ddyslecsig. Serch hynny, fel y dywedais wrthyn nhw, mae llawer mwy o ddealltwriaeth o’r mathau hyn o gyflyrau nawr, ac nid yw’r dangosydd o ddeallusrwydd isel, mae’n syml yn golygu fy mod yn prosesu pethau’n wahanol. Rwy’n falch o ddweud, ar ôl y sgwrs hon, dywedodd fy rhieni y byddent yn fy nghefnogi beth bynnag yr oeddwn i eisiau ei wneud ynglŷn â chael diagnosis. Gyda hyn yn ei le, daeth y syniad o addysg a gobaith am radd yn ôl i fy meddwl.
Doedd gennyf ddim i’w golli, ac roedd yn un o’r penderfyniadau gorau a wnes i erioed. Cysylltodd y tîm Cymorth i Fyfyrwyr â mi ar unwaith i ofyn beth oedd ei angen arnaf i’m helpu i astudio. Ar ôl egluro sut mae fy nyslecsia a chyflyrau iechyd eraill yn effeithio arnaf, rhoddodd y tîm ychydig o argymhellion imi.
Fel mae pawb ohonom yn ei wneud, chwiliais ar google, ac ymddangosodd y Brifysgol Agored. Gwelais eu bod yn cynnal modiwlau Mynediad ar gyfer pobl sydd eisiau blas o sut beth yw addysg uwch a sut maent yn ei ddarparu. Felly penderfynais gofrestru.
Doedd gennyf ddim i’w golli, ac roedd yn un o’r penderfyniadau gorau a wnes i erioed. Cysylltodd y tîm Cymorth i Fyfyrwyr â mi ar unwaith i ofyn beth oedd ei angen arnaf i’m helpu i astudio. Ar ôl egluro sut mae fy nyslecsia a chyflyrau iechyd eraill yn effeithio arnaf, rhoddodd y tîm ychydig o argymhellion imi. Roedd angen imi addasu’r gefnogaeth hon, ond dim ond wrth astudio y byddwn i’n gwybod ac yn deall beth oedd ei angen arnaf fel myfyriwr.
Gan fod y modiwl Mynediad yn mynd yn dda a’r marciau roeddwn yn eu cael wirioneddol yn adlewyrchu’r hyn y gallwn ei wneud, penderfynais fy mod wedi treulio digon o amser yn dychmygu’r radd anghaffaeladwy, a’i bod yn bryd mynd amdani. Roeddwn i’n gwybod fy mod eisiau astudio Seicoleg - roedd y maes wedi fy nghyfareddu erioed, felly penderfynais gofrestru ar gyfer gradd Seicoleg Fforensig. (Ydw, rwy’n un o’r bobl hynny sy’n mwynhau gwylio rhaglenni am droseddau go iawn!)
Gyda dyddiad dechrau fy ngradd yn nesáu, dechreuodd y nerfau a’r hunan amheuaeth. Ydw i’n ddigon clyfar i gael gradd, a fyddaf i’n gallu ymdopi ac yn bwysicach, a fyddaf i’n gallu deall a dysgu’r deunyddiau? Ar ddechrau pob modiwl, cysylltais â’m tiwtor i egluro pa gefnogaeth oedd ei hangen arnaf a pham. Roeddent yn eithriadol o ddeallgar a chefnogol, a oedd yn gymorth amhrisiadwy imi. Mae’n anodd iawn trafod y pethau sy’n gwneud astudio’r anoddach ichi, yn enwedig gyda rhywun diarth. Waeth pa mor anodd oedd gwneud hynny, rwy’n falch y gwnes i. Os nad oedd fy nhiwtoriaid yn gwybod pa gymorth neu gefnogaeth oedd eu hangen arnaf, sut allent eu rhoi imi?
Wna i ddim dweud celwydd, mae fy nyslecsia yn effeithio arnaf i a’m hastudiaethau, ond rwy’n gwybod sut i’w reoli nawr a sut i gyfyngu ar yr effaith mae’n ei chael arnaf i fel person ac fel myfyriwr. Mae’r tiwtoriaid yn y Brifysgol Agored yn ddeallgar ac yn gefnogol. Maent wirioneddol eisiau ichi lwyddo ac mae hynny’n golygu llawer, yn enwedig pan rydych chi wedi cael profiadau negyddol gydag addysg brif ffrwd. Mae grwpiau cymorth anhygoel hefyd a all helpu pobl mewn sefyllfaoedd tebyg i chi eich hun, a gallwch helpu eich gilydd. Ymunais â’r grŵp Myfyrwyr Anabl yn ystod fy modiwl Mynediad. Roeddwn i’n teimlo fel bod gennyf deulu cyfan o bobl mewn seyllfaoedd tebyg i mi, sy’n deall yn union beth rwy’n delio ag ef.
Nid yw addysg brif ffrwd yn addas i bawb, nid yw’n addaf i mi. Dydy hynny ddim yn golygu nad wyf yn ddeallus, mae’n golygu fy mod yn prosesu pethau’n wahanol a bod angen imi ddysgu mewn ffyrdd sy’n addas i mi. Mae meddwl hyn yn galonogol a grymusol wrth imi ddechrau ail flwyddyn gradd yr oeddwn yn meddwl na fyddwn byth yn gallu ei chael - wrth weithio llawn amser hefyd.
Os ydych chi’n darllen hwn ac yn gweld pethau y gallwch uniaethu â nhw, byddwn i’n dweud peidiwch â dal yn ôl rhag astudio. Neu, os ydych chi wedi dechrau, daliwch ati. Gall fod yn anodd, ond byddwch yn cyrraedd y pen arall, a gallwch gyflawni’r hyn rydych chi eisiau ei gyflawni.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Rhodri Davies
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532
Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891
Yn y blog hwn, mae un o'n myfyrwyr, Becky, yn dweud wrthym sut y darganfu fod ganddi ddyslecsia, sut y daeth o hyd i'r gefnogaeth yr oedd ei hangen arni, a sut y magodd yr hyder i ddechrau gweithio tuag at radd yr oedd hi unwaith yn meddwl oedd y tu hwnt i'w chyrraedd.
Mae adroddiad newydd o bwys gan y Brifysgol Agored a Chyngor Ffoaduriaid Cymru wedi datgelu'r her sylweddol sy’n wynebu llawer o ferched-ffoaduriaid wrth iddynt geisio cael addysg a gwaith yng Nghymru.