Y Brifysgol Agored ac undebau yn dod ynghyd i gefnogi dysgu gydol oes yng Nghymru

Cydweithwyr o'r Brifysgol Agored mewn digwyddiad TUC Cymru

Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru a TUC Cymru wedi ffurfioli cytundeb partneriaeth i helpu rhagor o weithwyr ac aelodau undebau llafur i gymryd rhan mewn dysgu gydol oes.

Mae’r cytundeb yn ychwanegu at brosiectau partneriaeth cyfredol y ddau sefydliad, sy’n cynnwys y wefan dysgutrwyrundeb.cymru sy’n helpu gweithwyr i ddatblygu sgiliau newydd drwy ddysgu; a Barod am y Dyfodol - rhaglen hyfforddiant wyth wythnos i’w cefnogi i ddatblygu eu gyrfaoedd eu hunain. 

Drwy’r bartneriaeth, bydd y Brifysgol Agored a TUC Cymru yn chwilio am ragor o gyfleoedd i ddylunio a hyrwyddo dysg i aelodau undebau llafur, gan gynnwys:

  • Cyrsiau mynediad i roi blas ar addysg uwch i bobl am y tro cyntaf
  • cyrsiau byrion i helpu staff i uwchsgilio ac ailsgilio
  • dysgu am ddim drwy blatfform OpenLearn y Brifysgol Agored.

Bydd y ddau sefydliad hefyd yn gweithio’n agos gyda’i gilydd ar ymchwil a gwerthuso er mwyn dangos effaith dysgu gydol oes, a rhannu arfer gorau ar draws mudiad undebau llafur Cymru.

Dywedodd Samantha Forde, Rheolwr Partneriaethau yn y Brifysgol Agored yng Nghymru:

“Mae’r cytundeb hwn yn adlewyrchu rhai o’r gwerthoedd sy’n gyffredin rhwng y Brifysgol Agored a TUC, gan gynnwys cyfiawnder cymdeithasol, cynhwysiant a dysgu gydol oes. Wrth gyfuno cyrhaeddiad TUC Cymru ar draws y mudiad undebau llafur gyda’n harbenigedd mewn dysgu o bell â chefnogaeth, rydym yn gobeithio y gallwn helpu rhagor o bobl ar draws Cymru i wireddu eu potensial drwy addysg.”

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891

Stacey and Alice

Tu ôl i'r llenni gyda Llwybrau: llunio cynnydd o’r cychwyn cyntaf yn Rhondda Cynon Taf

Yn y sesiwn holi ac ateb hon, cawn glywed gan Stacey Pring, Rheolwr Partneriaethau, ac Alice Tetstall, Swyddog Prosiect, sydd yn dweud mwy wrthym am sut mae Llwybrau yn helpu pobl.

Jack yn hyfforddi pêl-droed gydag Iniesta

Cyn-fyfyriwr y Brifysgol Agored yn dysgu gan Iniesta

O hyfforddi ar lawr gwlad, i ddysgu gan Andrés Iniesta: rydym yn sgwrsio â myfyriwr graddedig y Brifysgol Agored sydd â stori anhygoel