Neithiwr yn yr Eisteddfod Genedlaethol, soniodd y Gweinidog y Cabinet dros Addysg a'r Iaith Gymraeg, Anna Brychan AS am eu blaenoriaethau ar gyfer addysgu athrawon. Yr oedd hyn yn cynnwys ei bwriad i ddarganfod safbwyntiau gwahanol ar addysgu, wrth ochr cynllunio gweithlu ar gyfer y dyfodol.
Roedd Gweinidog yn cymryd rhan mewn trafodaeth banel y Brifysgol Agored ar addysg athrawon, a'i phwysigrwydd i ddyfodol cymunedau Cymraeg eu hiaith.
Yn ymuno â’r Gweinidog Cabinet oedd Matthew Evans, Pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf; Tegryn Jones, Prif Weithredwr, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro; Nerys Defis, Tiwtor Cwricwlwm ar Raglen TAR y Brifysgol Agored; a Cai Fôn Davies, graddedig TAR y Brifysgol Agored.
Cadeiriwyd y digwyddiad gan Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Dysgu, sefydliad dysgu proffesiynol cenedlaethol Cymru ar gyfer addysgwyr.
Mae cymhwyso fel athro a chael defnyddio’r Gymraeg bob dydd fel rhan o ‘ngwaith, yn bwysig iawn i fi, ac mae’r ffaith ‘mod i’n gallu trosglwyddo’r Gymraeg a’i holl fanteision i’r genhedlaeth nesaf yn fraint a dweud y gwir.
Dwi’n teimlo bod dysgu yng yng Nghymru yn fwy o alwad na fysa fo taswn i’n dysgu mewn unrhyw wlad arall, oherwydd mae’r Gymraeg yn golygu lot i fi a’r ffordd dwi’n edrych ar y byd.
Mae cael gweithio yn fy nghymuned fi fy hun hefyd - mewn oes lle mae pobl ifainc yn cael trafferth dod o hyd i swyddi yn eu milltir sgwâr – yn golygu lot i fi. Mae o’n elfen ychwanegol o ba mor bwysig yw hi i bobl ifainc allu aros yn eu cymunedau a gwneud gwahaniaeth.
Cai Fôn Davies Graddedig TAR y Brifysgol Agored
Cyflwynir rhaglen TAR y Brifysgol Agored yng Nghymru dros ddwy flynedd ac mae'n rhoi statws athro cymwys (SAC) i raddedigion. Mae ar gael i astudio yn y Gymraeg neu'r Saesneg, ar lefel gynradd ac uwchradd. Mae ganddo lwybr rhan-amser, a llwybr cyflogedig i staff sydd eisoes yn gweithio mewn ysgol.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Rhodri Davies
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532
Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891
Neithiwr yn yr Eisteddfod Genedlaethol, soniodd y Gweinidog y Cabinet dros Addysg a'r Iaith Gymraeg, Anna Brychan AS am eu blaenoriaethau ar gyfer addysgu athrawon.
Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru a TUC Cymru wedi ffurfioli cytundeb partneriaeth i helpu rhagor o weithwyr ac aelodau undebau llafur i gymryd rhan mewn dysgu gydol oes.