Cyrraedd eich amcanion gyrfa gyda Chyflogadwyedd-Cymru

Mae astudio gyda'r OU yn rhoi mwy na chymhwyster i chi. Byddwch yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy sy'n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr, ac yn meithrin yr hyder a'r rhinweddau sydd eu hangen i gyflawni eich nodau personol, addysgol a gyrfaol. Waeth beth yw eich cefndir na'ch uchelgeisiau, rydym yma i'ch cefnogi.

Archebwch eich sesiwn gefnogi

Magwch eich hyder gyrfa

Ydych chi'n fyfyriwr gyda'r Brifysgol Agored ac yn byw yng Nghymru? Gallai Employability-Wales eich helpu i gymryd eich cam nesaf yn hyderus.

Byddwch yn derbyn cefnogaeth bersonol un-i-un gan gynghorydd cyflogadwyedd, a all eich helpu i:

  • Archwilio eich opsiynau a gwneud penderfyniadau gwybodus am eich dyfodol.
  • Creu CV sy'n sefyll allan, gydag adborth ymarferol a mynediad at offer deallus.
  • Meithrin cysylltiadau â chyflogwyr a datblygu eich rhwydwaith proffesiynol.
  • Dod o hyd i leoliadau gwaith sy'n eich helpu i ennill profiad gwerthfawr a symud tuag at eich nodau.
  • Datblygu eich hyder a'ch sgiliau trwy hyfforddiant, gweithdai a chefnogaeth wedi'i theilwra i chi.

Efallai y gallwn hefyd helpu gyda chostau, megis teithio i leoliad gwaith neu dreuliau eraill, gan eich helpu i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd sydd ar gael i chi.

Archebwch sesiwn gymorth

Yn barod i wneud eich cam nesaf? Trefnwch sgwrs 45 munud am ddim gydag ymgynghorydd Cyflogadwyedd-Cymru, a chewch gymorth wedi’i deilwra i’ch helpu i gyflawni eich nodau.

Neu e-bostiwch [email protected] i ddarganfod mwy.

Archebwch eich sesiwn



Straeon myfyrwyr

Gweler sut mae Cyflogadwyedd-Cymru wedi helpu myfyrwyr y Brifysgol Agored yng Nghymru i feithrin hyder, ennill profiad a chymryd y cam nesaf tuag at eu nodau gyrfa.

Cafodd Tom, myfyriwr o’r Brifysgol Agored, help gan ein tîm i ddod o hyd i leoliad yng Nghanolfan Materion Rhyngwladol Cymru. Clywch fwy am beth wnaeth e yno, a sut mae hyn wedi helpu ei gyflogadwyedd.

Graddiodd Mabel gyda gradd yn y Celfyddydau a'r Dyniaethau gyda'r Brifysgol Agored yng Nghymru. Wrth astudio, cwblhaodd brofiad gwaith Cyflogadwyedd Cymru gyda chwmni cyfryngau creadigol i ennill profiad proffesiynol a mewnwelediad i’r diwydiant ffilm.

Darllenwch stori Mabel

Darluniad Mabel

Mae'r gerdd hon gan fyfyriwr Cyflogadwyedd-Cymru, Louise Gardner, yn myfyrio ar ei phrofiad o'r rhaglen. Yma mae hi'n mynegi sut mae'r rhaglen yn helpu unigolion yng Nghymru i feithrin sgiliau, goresgyn amheuaeth, a symud ymlaen yn eu teithiau addysgol a gyrfaol.

Dychmygwch

Trwy'r Brifysgol Agored, mae drysau'n agor,
Dyfodol newydd a chraig fel angor,
I fod yn ni ein hunain, yn ddewr yn unfryd,
Calonnau gwydn sy'n perthyn o hyd,
Rydym yn ysgolheigion, o'r pedwar ban,
Wedi'n gyrru gan bwrpas, wedi'n tanio gan dan.

Hawlio'r hawl i ddilyn ein nod,
Torri'r gadwyn, troi y rhod,
Codi'r faich, rhyddhau pob pwyth,
A cherdded ymlaen, er gwaethaf y llwyth.

Alla i wneud hyn? Ydw i'n rhy hwyr?
Ydy hyn yn gamsyniad, neu'n ffawd llwyr?
Y chyn hir mae'r byd yn gweiddi,
Mae'r pryder yn codi ac mae'r amau'n treiddi,
Ond tro o gwmpas, rwyt ti'n rhan o griw,
Mae'r gefnogaeth yno, rwyt ti wrth y llyw.

Mae Cyflogadwyedd Cymru'n
codi'ch breuddwyd i'r nen,
Yn cefnogi myfyrwyr nes i'r
daith dod i ben.
 

Gan Louise Gardner a Harry Jenkins



Eich cymorth gyrfa

Darganfyddwch yr ystod o gymorth gyrfaoedd a chyflogadwyedd sydd ar gael i'ch helpu i feithrin hyder, ennill profiad a chymryd y cam nesaf tuag at eich nodau.

Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd (CES) y Brifysgol Agored yma i'ch cefnogi o'ch modiwl cyntaf hyd at dair blynedd ar ôl astudio.

  • Mae'r broses gyrfaoedd 3 munud yn eich helpu i ddechrau meddwl am eich nodau a'ch anghenion
  • Mae llwybr gweithgaredd wedi’i hawtomeiddio Llywio eich Dyfodol yn meithrin eich hyder ac yn eich helpu i ddiffinio eich camau nesaf
  • Dewch o hyd i’r cyfleoedd diweddaraf yng Nghymru a dilynwch eich hoff gyflogwyr gyda Hwb Cyfleoedd a chael hysbysiadau am swyddi misol Cymru
  • Beth am drefnu ymgynghoriad gyrfaoedd unigol gyda gweithiwr gyrfaoedd proffesiynol i gael cymorth pellach.

Dewch o hyd i hyfforddiant, gweithdai a digwyddiadau sydd ar ddod ar OpportunityHub i ddatblygu eich sgiliau, hybu eich hyder a chysylltu â chyflogwyr.

Ein digwyddiadau

Enillwch brofiad yn y byd go iawn wrth i chi astudio. Mae interniaethau rhithwir y Brifysgol Agored yn caniatáu ichi weithio o bell gyda chyflogwyr ar brosiectau byw, gan eich helpu i feithrin sgiliau gwerthfawr, hyder a chysylltiadau proffesiynol.

Wedi'u cynllunio i gyd-fynd â dysgu o bell, mae interniaethau rhithwir yn cynnig profiad hyblyg ac ymarferol a all eich helpu i sefyll allan i gyflogwyr.

Darganfyddwch yrfaoedd, gweithleoedd a diwydiannau gwahanol gyda Careers in 360 Cymru – platfform rhithwir dwyieithog (Cymraeg a Saesneg) rhad ac am ddim sy'n dod â'r broses o archwilio gyrfaoedd yn fyw.

Archwiliwch Yrfaoedd yn 360 Cymru

Darogan yw Hwb Graddedigion Cymru, yr unig blatfform pwrpasol ar gyfer gyrfaoedd graddedigion yng Nghymru. Trwy ein platfform digidol, digwyddiadau a gwasanaethau eraill, rydym yn cysylltu talent addysgedig â gradd â chyflogwyr yng Nghymru. Rydym yn gwybod bod Cymru yn lle gwych i fyw a gweithio. Ein cenhadaeth yw sicrhau bod pob myfyriwr a graddedig yn y wlad yn gwybod hyn hefyd. Dyma'r pwrpas sy'n ein gyrru fel sefydliad.

Archwiliwch Darogan

Mae Cyflogadwyedd Cymru wedi bod yn adnodd amhrisiadwy i mi! Nid yn unig y mae wedi fy helpu i nodi ble mae fy nghryfderau a pha feysydd y gallaf eu gwella, ond mae hefyd wedi fy helpu i sicrhau interniaeth gyffrous.

Myfyriwr y Brifysgol Agored yng Nghymru