Cydweithrediad y Brifysgol Agored gyda'r Talking Shop

Coffi a biscedi ar fwrdd

Ar 28 Chwefror bydd y Brifysgol Agored (OU) yng Nghymru yn cyd-gynnal yn y Siop Siarad yn y Coed Duon, ac eisiau clywed gan bobl ifanc (16-25).

Bydd tîm y Brifysgol Agored yn defnyddio’r gofod i siarad am OpenLearn, platfform dysgu ar-lein rhad ac am ddim y Brifysgol Agored. Bydd sesiwn hefyd ar gael pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n seiliedig ar natur.  

Lleolir y Siop Siarad yn 8/9 The Market Place yn y Coed Duon ac mae ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 10.00am a 5.00pm. Fe’i disgrifir fel ‘canolfan wybodaeth ddemocrataidd a diwylliannol’ lle mae ‘syniadau, gwybodaeth a sgwrs am ddim. Ac felly hefyd y te.’

Bydd staff y Brifysgol Agored wrth law drwy’r dydd i drafod llwybrau i astudio, a bydd arddangosfa o gyrsiau byr OpenLearn a all eich helpu ar y llwybr i’ch swydd ddelfrydol.

Åsa Malmsten, Rheolwr Partneriaethau

'Bydd staff y Brifysgol Agored wrth law drwy'r dydd i drafod llwybrau i astudio, a bydd arddangosfa o gyrsiau byr OpenLearn a all eich helpu ar y llwybr i'ch swydd ddelfrydol,' meddai Åsa Malmsten, Rheolwr Partneriaethau yn Y Brifysgol Agored yng Nghymru. 'Rydym hefyd am glywed gan bobl ifanc yr ardal - yn enwedig eu barn ar ddinasyddiaeth weithredol, newid cymdeithasol a chysylltiadau â byd natur.

'Bydd y digwyddiad yn sesiwn galw heibio, felly os ydych yn y Coed Duon ddydd Gwener 28 Chwefror, mae croeso i chi alw heibio a chymryd rhan yn y gweithgareddau.'

Request your prospectus

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws