Crewyr o Gymru yn archwilio'r hyn y mae Cymru yn ei olygu iddyn nhw mewn arddangosfa newydd

Pobl yn sefyll gyda draig goch grefftus.

Beth mae Cymru yn ei olygu i chi? Ai ei thirwedd gyfoethog, ei thraddodiadau, neu ei threftadaeth ddiwydiannol? Neu, a yw'n fwy ynghylch Cymru gyfoes - boed hynny'n sgrech gitâr drydan, gorymdeithio mewn digwyddiad Pride, neu ddathlu ein sin gelfyddydol gyfoes?

Dyma rai cwestiynau y bu grŵp o grewyr yn eu hystyried fel rhan o arddangosfa newydd oedd ar ddangos yng Nghanolfan Mileniwm Cymru y mis ddiwethaf.


Mae'r grŵp Ein Cymru yn cynnwys oedolion gydag Anableddau Dysgu sy'n byw ar hyd a lled de Cymru. Mae llawer yn denantiaid i Gymdeithas Tai First Choice ac yn cael eu cefnogi gan Innovate Trust - darparwr byw â chymorth, sy'n darparu dull sy'n canolbwyntio ar y person o gefnogi'r gymuned. Mae Innovate Trust yn gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, awtistiaeth, ac anghenion ychwanegol eraill i gyflawni annibyniaeth yn y ffordd y maent ei eisiau. Mae Ein Cymru yn rhan o brosiect REACH y Brifysgol Agored yng Nghymru, sy'n cefnogi grwpiau o amgylch Cymru i ddysgu rhagor am eu treftadaeth drwy gelfyddydau a diwylliant. Caiff ei gyflwyno mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru a'i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

Collage of images from the Wales REACH exhibit

Ymhlith rhai o’r eitemau a arddangoswyd roedd:

  • Seinweddau rhyngweithiol i gyfleu cysylltiadau â Chymru
  • Archwiliad o gamlesi a'u pwysigrwydd i Gaerdydd a de Cymru
  • Baneri a chrysau-t wedi'u haddurno ar gyfer Pride Caerdydd eleni - ochr yn ochr â phyped draig wyth troedfedd a ddefnyddiwyd ar gyfer Carnifal Butetown.
  • Gwaith celf i adlewyrchu tirweddau Cymru sy'n newid yn gyson
  • Ffotograffiaeth o bob cwr o Gymru sy'n arddangos yr hyn sy'n bwysig i bobl yn eu cymunedau.

Cwrdd â rhai o'r tîm

Yma, cewch gwrdd â rhai o'r bobl sy'n gysylltiedig â'r prosiect:

Catherine

Emily

Zac

Beth mae partneriaid y prosiect yn ei ddweud

Dywedodd Nick French, Prif Weithredwr Innovate Trust:

"Bu'n bleser cael bod yn un o bartneriaid Prosiect Reach dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Rwyf wedi gallu mynychu ychydig o sesiynau fy hun, ac roedd yn wych gweld pobl yr ydym yn eu cefnogi'n ymgysylltu mor gadarnhaol. Yn ogystal â chynyddu cyfranogiad, ac mewn sawl achos hyder, mae'r Prosiect wedi rhoi mynediad i unigolion at gyfleoedd a lleoedd na fyddent byth wedi ei gael fel arall.”

Dyfyniad Adrian Burke, Prif Weithredwr yn First Choice Housing Association:

“Ni ellir gwadu'r effaith y mae prosiect REACH Cymru wedi'i chael ar fywydau unigolion ag Anabledd Dysgu. Rydym wedi gweld sut mae'r sesiynau deniadol a chreadigol wedi galluogi pobl i ddod i adnabod Cymru, eu cymuned ac archwilio hunaniaeth ar lefel na fyddent wedi cael mynediad iddi o'r blaen. Mae gweld rhai cyfranogwyr prosiect yn mynd ymlaen i rolau cyflogedig gyda REACH Cymru yn ganlyniad gwych. Rwy'n gobeithio y bydd y prosiect yn ysbrydoli pobl eraill ledled Cymru i ymgysylltu â threftadaeth a'r celfyddydau.”

Os hoffech chi weld rhai o'r gweithiau celf o'r prosiect hwn, byddant ar ddangos yn Amgueddfa Hanes Genedlaethol Sain Ffagan yr hydref hwn.

Cefndir Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol

Ein gweledigaeth yw i dreftadaeth gael ei gwerthfawrogi, ei gwarchod a'i chynnal i bawb, nawr ac yn y dyfodol. Dyna pam, fel ariannwr mwyaf treftadaeth y DU, ein bod wedi ymroi i gefnogi prosiectau sy’n cysylltu pobl a chymunedau gyda threftadaeth, fel y nodir yn ein cynllun strategol, Treftadaeth 2033. Gall treftadaeth fod yn unrhyw beth o’r gorffennol mae pobl yn ei werthfawrogi ac yn awyddus i'w drosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol. Mae gennym ffydd yng ngrym treftadaeth i sbarduno'r dychymyg, cynnig llawenydd ac ysbrydoliaeth, a meithrin balchder mewn lle a chysylltiad â’r gorffennol. 

Dros y 10 mlynedd nesaf, rydym yn bwriadu buddsoddi £3.6 biliwn a godwyd ar gyfer achosion da gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol er mwyn gwneud gwahaniaeth pendant i bobl, lleoedd a chymunedau.

Dilynwch @HeritageFundUK ar X, Facebook ac Instagram a defnyddiwch #LoteriGenedlaethol #CronfaDreftadaeth

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891

Stacey and Alice

Tu ôl i'r llenni gyda Llwybrau: llunio cynnydd o’r cychwyn cyntaf yn Rhondda Cynon Taf

Yn y sesiwn holi ac ateb hon, cawn glywed gan Stacey Pring, Rheolwr Partneriaethau, ac Alice Tetstall, Swyddog Prosiect, sydd yn dweud mwy wrthym am sut mae Llwybrau yn helpu pobl.

Jack yn hyfforddi pêl-droed gydag Iniesta

Cyn-fyfyriwr y Brifysgol Agored yn dysgu gan Iniesta

O hyfforddi ar lawr gwlad, i ddysgu gan Andrés Iniesta: rydym yn sgwrsio â myfyriwr graddedig y Brifysgol Agored sydd â stori anhygoel