Datgela adroddiad newydd gan y Brifysgol Agored fod anghysondebau cynyddol rhwng anghenion cyflogwyr a’r dalent sydd ar gael - sydd yn ei dro yn atal sefydliadau rhag mynd i’r afael â phrinder sgiliau parhaus tra bod nifer fawr o bobl ifanc yn parhau i fod allan o waith.
Mae’r ‘Baromedr Busnes 2026: Manteisio ar biblinell talent ifanc mewn byd digidol’ yn seiliedig ar arolwg o 1,500 o arweinwyr sefydliadau yn y DU a 1,000 o bobl ifanc rhwng 16 a 24 mlwydd oed sydd ddim mewn addysg, gwaith na hyfforddiant ar hyn o bryd (NEET). Mae rhain yn cynnwys 83 o gyflogwyr a 54 o bobl ifainc o Gymru. Canfu fod dros hanner (57%) o gyflogwyr yn profi prinder sgiliau, ffigwr sydd i fyny 3% ers llynedd. Yn ychwanegol, datgelodd 42% eu bod yn disgwyl i’r ffigwr hwn waethygu.
Yn gadarnhaol, mae busnesau yng Nghymru yn ymddangos yn fywiog yn nhermau recriwtio. Adroddodd pedwar deg un y cant iddynt gyflogi mwy o staff yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, o’i gymharu â dim ond 27% ar hyd a lled y DU. Mae’r Baromedr Busnes diweddaraf hefyd wedi canfod bod pobl ifanc yng Nghymru yn awyddus i weithio a datblygu sgiliau, ond maent yn wynebu rhwystrau sylweddol i gael mynediad, er:
Er bod 80% o gyflogwyr ar hyd a lled y DU yn dweud eu bod yn fodlon hyfforddi pobl ifanc sy’n dechrau yn y gweithlu, nid yw eu geiriau bob amser yn cael eu gweithredu. Dim ond 43% sy’n cynnig lleoliadau profiad gwaith, ac oddeutu traean yn cynnig cynlluniau i raddedigion (34%) neu interniaethau (33%). Yn ychwanegol, dim ond 34% sydd â mentrau ar gyfer gweithwyr dan 25 mlwydd oed, a dim ond 11% sy’n targedu NEETau yn uniongyrchol.
Dywed NEETau mai heriau iechyd meddwl (40%), diffyg profiad (37%) a theimlo nad oes ganddynt ddigon o gymwysterau (35%) yw’r prif rwystrau y maent yn eu hwynebu rhag bod yn gwbl barod am waith. Mae hyn yn atgyfnerthu’r bwlch sydd rhwng disgwyliadau cyflogwyr a mynediad pobl ifanc at y profiad a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i gael mynediad at waith.
Yng Nghymru, dywedodd 46% o bobl ifanc eu bod yn awyddus i fod mewn gwaith â thâl o fewn y ddwy flynedd nesaf, gyda 7% yn ystyried cyfuno hyn ag astudio neu hyfforddi. Mae Erin, 21, o Gaerdydd, yn astudio ar gyfer gradd israddedig mewn Athroniaeth ac Astudiaethau Seicolegol gyda’r Brifysgol Agored.
Rwy’n ffodus i fod yn ennill cyflog wrth astudio pwnc yr wyf yn ei garu. Hoffwn fynd ymlaen i fod yn athro ysgol gynradd neu’n weithiwr cymdeithasol. Credaf y gall fy mhrofiad o weithio ynghyd â fy ngradd fy helpu gyda hyn.
Erin Myfyriwr y Brifysgol Agored
Dywedodd Ben Lewis, Pennaeth a Chyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru:
”Mae Cymru yn wynebu her ddifrifol, gyda’r gyfran uchaf o bobl ifanc sydd ddim mewn addysg, gwaith na hyfforddiant nag unrhyw le yn y DU. Mae Baromedr Busnes y Brifysgol Agored yn dangos bod pobl ifanc eisiau dysgu a gweithio, ond yn teimlo’n aml fod y cyfleoedd hynny allan o’u cyrraedd, hyd yn oed wrth i gyflogwyr adrodd am brinder sgiliau parhaus.
"Mae yna ddatgysylltiad clir. Er mwyn mynd i’r afael â hyn bydd angen gweithredu cydlynol rhwng Llywodraeth newydd Cymru, Medr, cyflogwyr, darparwyr addysg a’r bobl ifanc eu hunain.
“Rhaid i addysg uwch hyblyg, gyda chefnogaeth cyllid cynaliadwy a chymorth i ddysgwyr, fod yn rhan o’r datrysiad. Mae’n galluogi pobl i ennill wrth iddynt ddysgu ac yn ehangu mynediad i gyfleoedd, yn arbennig yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. Mae hynny’n hanfodol os ydym am rannu’r cyfleoedd a ffyniant i bob rhan o Gymru.”
Am ragor o wybodaeth ar sut all cyflogwyr fanteisio ar dalent newydd, ewch i https://bit.ly/4g9Swbp
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Rhodri Davies
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532
Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891
Mae myfyrwyr ledled Cymru wedi rhestru'r Brifysgol Agored fel y brifysgol orau yng Nghymru o ran boddhad cyffredinol myfyrwyr.
Datgela adroddiad newydd gan y Brifysgol Agored fod anghysondebau cynyddol rhwng anghenion cyflogwyr a’r dalent sydd ar gael.