Sut i adeiladu planed

Dates
Monday, May 16, 2022 - 19:00 to 21:00
Location
Techniquest, Stuart Street, Caerdydd CF10 5BW
Contact
OU Wales events

Bydd sgwrs Martin yn trafod oes y planedronynnau – pennod anhrefnus gynnar yn hanes cysawd ein haul – ac yn arddangos sut mae astudio gwibfeini yn cynnig cyfle inni ail-greu’r llawlyfr ar gyfer adeiladu planed.

Bydd y digwyddiad hwn yn rhan o’n cyfres ddiweddaraf o Sgyrsiau Agored, ble bydd ein gwyddonwyr arbenigol o’r Brifysgol Agored yn rhannu eu brwdfrydedd a’u gwybodaeth am wyddoniaeth gyda sgyrsiau difyr yn ymdrin â phynciau gan gynnwys ffiseg cwantwm, gwibfeini, a sefydlu safle lloerol.

Cynhelir y digwyddiad hwn wyneb yn wyneb yn Techniquest. Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad er mwyn derbyn eich tocyn. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ymlaen llaw, cysylltwch â wales-events@open.ac.uk

Bydd y digwyddiad yn agor ar gyfer cofrestru am 6pm, lle bydd lluniaeth ysgafn cyn i'r sgwrs ddechrau am 6:30pm.

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws