Gan ddechrau ym mis Hydref 2022 gallwch astudio ar gyfer Cam 2 o’ch gradd nyrsio ochr yn ochr â’ch swydd gyfredol gyda'r Brifysgol Agored yng Nghymru. Mae ein lleoedd newydd wedi eu comisiynu’n llawn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gweithwyr y GIG. Gan eich bod yn astudio ochr yn ochr â’ch swydd, ni fyddwch yn colli cyflog. Hefyd, ochr yn ochr â chymorth gweithiwr y GIG bydd gennych amser wedi’i neilltuo ar gyfer astudio ac ar gyfer eich lleoliadau ymarferol fel myfyriwr nyrsio.
Yn y sesiwn ar-lein, bydd ein tîm yn eich arwain trwy’r hyn sydd ar gael yn lleoliadau Llywodraeth Cymru. Byddant yn eich arwain trwy fanylion y cwrs, beth sydd ei angen arnoch i wneud cais a’r broses ymgeisio. Bydd cyfle hefyd i ofyn cwestiynau ar y diwedd.
Mae’r holl leoedd ar ein cwrs gradd nyrsio yn ddibynnol ar feini prawf y Brifysgol Agored ar gyfer rhaglenni proffesiynol a’n prosesau dethol a chyfweld. Ar yr achlysur hwn mae’r lleoedd a gomisiynwyd ar ein cwrs gradd nyrsio ar gyfer staff y GIG. Fodd bynnag, rydym yn parhau i groesawu myfyrwyr o’r GIG a'r sector annibynnol fel ei gilydd ar gyfer ein cymwysterau.
Cofrestrwch yma
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw