Ymunwch â ni ar gyfer darlith rhad ac am ddim ar 23 Mehefin i glywed gan Dr Marcus Badger a Dr Vicky Johnson, Ymgynghorwyr Academaidd Y Brifysgol Agored ar gyfer y rhaglen BBC2 'Our Coast'. Bydd yr actifydd Sian Sykes, a ymddangosodd ar bennod Cymru 'Our Coast', hefyd yn ymuno â ni. Bydd y cyflwynwyr yn trafod y rhaglen, gan gynnwys y rhyngweithio rhwng llygredd plastigau a'r newid yn yr hinsawdd, sydd yn aml yn gymhleth. Byddwch hefyd yn clywed am y ffordd y mae'r newid yn lefel y môr yn peri her amgylcheddol anghyfartal.
Mae'r digwyddiad ar-lein hwn yn addas i bawb, gan gynnwys myfyrwyr sy'n astudio gartref ar hyn o bryd, yn arbennig y sawl sy'n astudio'r gwyddorau amgylcheddol, daearyddiaeth, daeareg neu gyfrifoldeb cymdeithasol. Mae hefyd yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb yn y gwaith o warchod ein harfordiroedd, newid hinsawdd, llygredd plastigau, cynaliadwyedd a llawer mwy.
Defnyddiwch y ddolen isod i gofrestru'ch diddordeb yn 'Ein Arfordir' - darlith ar-lein. Byddwn yn anfon cyfarwyddiadau ymuno atoch ar ôl i chi gofrestru.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw