Mae astudio gyda'r Brifysgol Agored yn rhoi mwy na chymhwyster i chi. Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio fel eich bod yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy a rhinweddau sy'n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr.
Nid yw adeiladu eich cyflogadwyedd yn ymwneud â chael swydd yn unig. Mae'n ymwneud â meithrin eich hyder, sgiliau a rhinweddau i gyflawni'ch potensial. Gall hefyd eich helpu i gyflawni eich nodau personol, addysgol a’ch nodau gyrfa - sut bynnag yr ydych yn gweld hynny a beth bynnag fo'ch cefndir.
Gallwn eich helpu gyda hyn.

Os ydych yn fyfyriwr gyda'r Brifysgol Agored sy'n astudio yng Nghymru, gallech wneud cais am gymorth gan Cyflogadwyedd Cymru.
Byddwch yn cael hyfforddiant a mentora un i un pwrpasol gan gynghorydd cyflogadwyedd a all eich helpu gyda:
Gallwn hefyd eich helpu gyda chostau fel teithio i weithle, neu unrhyw gostau eraill a allai fod gennych.
Os hoffech chi siarad am eich nodau gyrfa a'ch sgiliau cyflogadwyedd, archebwch sgwrs 45 munud gydag aelod cyfeillgar o'n tîm Cyflogadwyedd-Cymru.
Fel arall, anfonwch e-bost atom i [email protected]. Edrychwn ymlaen at glywed gennych chi.
Mae Cyflogadwyedd Cymru wedi bod yn adnodd amhrisiadwy i mi! Nid yn unig y mae wedi fy helpu i nodi ble mae fy nghryfderau a pha feysydd y gallaf eu gwella, ond mae hefyd wedi fy helpu i sicrhau interniaeth gyffrous."
Myfyriwr y Brifysgol Agored yng Nghymru

Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd (CES) y Brifysgol Agored yma i'ch cefnogi o'ch modiwl cyntaf hyd at dair blynedd ar ôl astudio.
Os ydych chi'n gyflogwr sydd angen rhywfaint o gymorth ychwanegol, siaradwch â ni i weld sut y gallai myfyriwr neu raddedig o'r Brifysgol Agored helpu eich sefydliad. Cysylltwch â ni ar [email protected].
Rydym bob amser yn ceisio eich helpu i gysylltu â chyflogwyr. Gydag interniaeth rithwir, byddwch yn gweithio ar-lein o gartref yn yr un ffordd ag y byddwch yn astudio. Yn union fel interniaeth wedi'i lleoli ar y safle, byddwch yn gweithio ar brosiectau a thasgau a roddir i chi gan gyflogwr ac yn cael sesiynau dal i fyny a chymorth rheolaidd ganddynt.
Cyflwyno interniaethau rhithwir i fyfyrwyr

Cafodd Tom, myfyriwr o’r Brifysgol Agored, help gan ein tîm i ddod o hyd i leoliad yng Nghanolfan Materion Rhyngwladol Cymru. Clywch fwy am beth wnaeth e yno, a sut mae hyn wedi helpu ei gyflogadwyedd.
Graddiodd Mabel gyda gradd yn y Celfyddydau a'r Dyniaethau gyda'r Brifysgol Agored yng Nghymru. Wrth astudio, cwblhaodd brofiad gwaith Cyflogadwyedd Cymru gyda chwmni cyfryngau creadigol i ennill profiad proffesiynol a mewnwelediad i’r diwydiant ffilm.

Mae'r gerdd hon gan fyfyriwr Cyflogadwyedd Cymru, Louise Gardner, yn myfyrio ar ei phrofiad o'r rhaglen. Yma mae hi'n mynegi sut mae'r rhaglen yn helpu unigolion yng Nghymru i feithrin sgiliau, goresgyn amheuaeth, a symud ymlaen yn eu teithiau addysgol a gyrfaol.
Dychmygwch
Trwy'r Brifysgol Agored, mae drysau'n agor,
Dyfodol newydd a chraig fel angor,
I fod yn ni ein hunain, yn ddewr yn unfryd,
Calonnau gwydn sy'n perthyn o hyd,
Rydym yn ysgolheigion, o'r pedwar ban,
Wedi'n gyrru gan bwrpas, wedi'n tanio gan dan.
Hawlio'r hawl i ddilyn ein nod,
Torri'r gadwyn, troi y rhod,
Codi'r faich, rhyddhau pob pwyth,
A cherdded ymlaen, er gwaethaf y llwyth.
Alla i wneud hyn? Ydw i'n rhy hwyr?
Ydy hyn yn gamsyniad, neu'n ffawd llwyr?
Y chyn hir mae'r byd yn gweiddi,
Mae'r pryder yn codi ac mae'r amau'n treiddi,
Ond tro o gwmpas, rwyt ti'n rhan o griw,
Mae'r gefnogaeth yno, rwyt ti wrth y llyw.
Mae Cyflogadwyedd Cymru'n
codi'ch breuddwyd i'r nen,
Yn cefnogi myfyrwyr nes i'r
daith dod i ben.
Gan Louise Gardner a Harry Jenkins

Cymerwch olwg ar yr e-hwb cyflogadwyedd, adnodd ar-lein a grëwyd i'ch helpu i lywio eich taith gyrfa.

Darogan yw Hwb Graddedigion Cymru, yr unig blatfform pwrpasol ar gyfer gyrfaoedd graddedigion yng Nghymru.
Trwy ein platfform digidol, digwyddiadau a gwasanaethau eraill, rydym yn cysylltu talent addysgedig â gradd â chyflogwyr yng Nghymru.
Rydym yn gwybod bod Cymru yn lle gwych i fyw a gweithio. Ein cenhadaeth yw sicrhau bod pob myfyriwr a graddedig yn y wlad yn gwybod hyn hefyd. Dyma'r pwrpas sy'n ein gyrru fel sefydliad.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw