Mamau o Dde Cymru yn dilyn breuddwyd seicoleg gyda'r Brifysgol Agored

Anna a'i theulu

Gan gyfuno gyrfa a bod yn fam, cafodd Stephanie (40) o Gaerffili ac Anna (41) o Gaerdydd, dwy ffrind, gefnogaeth drwy'r Brifysgol Agored i ddilyn y diddordeb oedd gan y ddwy mewn seicoleg.

Roedd y ddwy fam eisiau ennill cymwysterau a fyddai'n eu galluogi i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd, ond oherwydd ymrwymiadau teuluol roedd Anna a Stephanie eisiau opsiynau dysgu hyblyg a fyddai'n caniatáu i'r ddwy astudio eu graddau mewn ffordd a oedd yn gweithio iddyn nhw. Yn 34 oed, roedd Stephanie yn poeni am ei dyfodol a'i gallu i ddarparu ar gyfer ei merch chwech oed fel mam sengl. Er ei bod yn gweithio'n galed yn ei swydd weinyddol ar isafswm cyflog, prin oedd incwm Stephanie yn talu am hanfodion.

'Fe wnes i ennill fy ngradd mewn ffordd a weithiodd i mi'

Ar ôl gadael yr ysgol yn 16 oed, roedd Stephanie yn aml yn teimlo bod ei chyfleoedd yn gyfyngedig. Heb unrhyw gymwysterau ffurfiol na llwybr gyrfa clir, roedd hi'n credu mai ei hunig opsiynau oedd swyddi lefel mynediad.

Meddai Stephanie: "Roedd gen i ddiddordeb erioed mewn seicoleg, felly penderfynais gofrestru yn y Brifysgol Agored oherwydd bod ei chyrsiau ar-lein yn gadael i mi weithio tuag at fy nghymwysterau mewn ffordd oedd yn addas i’r amser oedd gennyf i astudio. Roeddwn i'n gallu astudio ar ôl i fy merch fynd i'r gwely ac ar y penwythnosau."

Stephanie

Llwyddodd Stephanie hefyd i gael gafael ar gyllid ar gyfer ei hastudiaethau gyda grant cynhaliaeth a oedd yn caniatáu i'r fam sengl ganolbwyntio ar ei hastudiaethau heb straen ariannol ychwanegol.

Gyda chefnogaeth y Brifysgol Agored ac opsiynau dysgu hyblyg, llwyddodd Stephanie i ennill ei gradd mewn seicoleg, a arweiniodd at ddyrchafiad o'i swydd weinyddol ar lefel mynediad mewn elusen gyflogaeth leol i fod yn ymarferydd iechyd a llesiant yn yr un sefydliad.

Wrth siarad am ei dyrchafiad, meddai Stephanie: "Mae fy rôl newydd wedi dyblu fy incwm misol ac wedi caniatáu i mi roi'r bywyd roeddwn i bob amser wedi breuddwydio amdano i fy merch. Ers i mi adael yr ysgol yn 16 oed, doeddwn i erioed wedi meddwl y byddwn i'n gallu gwneud hyn i gyd. Rydw i mor ddiolchgar i'r Brifysgol Agored am fy helpu i gyrraedd fy mhotensial llawn."

Wedi'i chalonogi gan ei phrofiadau, dywedodd Stephanie wrth ei ffrind Anna am yr opsiynau cyllido a'r cyrsiau hyblyg sydd ar gael gyda'r Brifysgol Agored. Ar y pryd, roedd Anna yn gweithio fel glanhawr ond roedd hi'n teimlo diffyg her ac eisiau dilyn gyrfa oedd yn cyd-fynd yn well â'i diddordebau.

'Roeddwn i'n gwybod fy mod i'n gallu gwneud cymaint mwy'

Yn fam i bedwar o blant, roedd Anna wedi gadael y coleg yn 17 i gychwyn teulu. Er nad oedd ganddi ddiddordeb arbennig yn yr ysgol pan oedd hi'n iau, roedd ganddi bob amser ddiddordeb mewn ymddygiadau dynol.

Ers cofrestru yn y Brifysgol Agored mae gen i fwy o hyder a chymhelliant i ddilyn gyrfa mewn cwnsela a fydd yn rhoi'r cyfle i mi wneud gwaith yr wyf yn angerddol amdano a helpu eraill.

Anna

Wedi'i hysbrydoli gan Stephanie a'i phrofiadau, mae Anna bellach ar ei hail flwyddyn o’i gradd seicoleg gyda'r Brifysgol Agored ac mae’n gobeithio dod yn gwnselydd. Mae'r cwrs ar-lein hygyrch yn caniatáu iddi gwblhau ei gwaith cwrs tra bod ei phlant yn yr ysgol. Ac fel Stephanie, mae Grant Dysgu Llywodraeth Cymru yn golygu bod y fam i bedwar yn gallu talu costau ffioedd dysgu a deunyddiau astudio.

Gyda chefnogaeth cynghorwyr y Brifysgol Agored, mae Anna ar hyn o bryd yn ystyried ei gyrfa a'i hopsiynau academaidd i'w helpu i ail-ymuno â'r byd gwaith ar ôl graddio.

Wrth sôn am gefnogaeth y Brifysgol Agored, meddai Anna: "Pan oeddwn i'n gweithio fel glanhawr, roeddwn i'n cau fy meddwl i fynd drwy bob diwrnod. Doeddwn i ddim yn teimlo'n fodlon ac yn y bôn roeddwn i'n gwybod fy mod i'n gallu gwneud cymaint mwy. Ers cofrestru yn y Brifysgol Agored mae gen i fwy o hyder a chymhelliant i ddilyn gyrfa mewn cwnsela a fydd yn rhoi'r cyfle i mi wneud gwaith yr wyf yn angerddol amdano a helpu eraill."

Er bod cydbwyso mamolaeth, gyrfa ac addysg yn gallu bod yn heriol, mae Anna a Stephanie wedi profi bod hyn yn gwbl bosibl gyda'r gefnogaeth a'r adnoddau cywir.

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws