‘Mae’n llawer mwy na chodio.’ Sut mae gradd cyfrifiadura hyblyg wedi helpu i ddatblygu tîm TG cyngor

Nikki

Dilynodd Nikki (chwith) a Sam lwybrau gwahanol i’w gyrfaoedd mewn TG. Roedd y ddau wedi gweithio i’r un adran yng nghyngor Powys a phum mlynedd yn ôl fe wnaeth y ddau ddod i wybod am ffordd newydd o ennill gradd cyfrifiadura wrth ennill cyflog.

“Siaradon ni gyda’r Brifysgol Agored am eu rhaglen gradd-brentisiaeth,” meddai Jon (isod, i'r dde), sy’n uwch reolwr digidol gyda Chyngor Powys.

“Ar y pryd, roeddem yn awyddus i gynyddu ein capasiti o fewn y tîm. Yn hanesyddol, roeddem yn eithaf bach ac yn allanoli llawer o’n gwaith. Aethom ati i hysbysebu’r rôl gradd-brentisiaeth gyda staff gan ein bod yn credu ei fod yn gyfle gwych. Ymgeisiodd Nikki a Sam, a dyma nhw heddiw yn raddedigion.”

Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn cynnig Gradd-brentisiaeth mewn Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol. Mae prentisiaethau gradd yn swyddi cyflogedig sy’n galluogi staff i ennill arian wrth astudio’n hyblyg tuag at radd.

Ariennir y costau astudio’n llawn gan Lywodraeth Cymru.

Gallwch ddysgu mwy am y raddau-prentisiaeth yma.

Dysgu hyblyg

Jon

Er bod Sam wastad wedi bod â diddordeb mewn cyfrifiaduron, doedd hwn ddim yn bwnc oedd yn cael ei gynnig yn ei ysgol uwchradd leol ar gyfer TGAU.

“Wnaeth e ddatblygu fel diddordeb amser hamdden yn unig,” eglura.

Wedi iddo ymuno gyda’r cyngor dros 10 mlynedd yn ôl, sylwodd ei gydweithwyr ei fod yn dda gyda chyfrifiaduron, gan awgrymu iddo ymgeisio am rôl ar ddesg gwasanaeth yr adran TG.

“Dyna pryd ddaeth y cyfle ar gyfer gradd-brentisiaeth. Ro’n i’n edifar na ches i radd pan ro’n i’n iau, felly dyma fy nghyfle i.

“Roedd gen i fwy o ddiddordeb mewn seilwaith. Ro’n i’n dda gydag adeiladu rhwydweithiau a chyfrifiaduron, ond wnes i erioed fentro i’r ochr feddalwedd o bethau. Ro’n i eisoes yn edrych ar wahanol raddau ond sylweddolais y byddai dilyn cwrs ochr yn ochr gyda swydd lawn amser yn mynd i fod yn galed. Ro’n i’n gweld bod y radd-brentisiaeth yn ffordd o gael yr un peth ond mewn ffordd sy’n haws i’w rheoli.

Roedd llwybr Nikki ychydig yn wahanol. Doedd hi erioed wedi dychmygu ei hun yn gweithio mewn TG, ac nid oedd yn edifar ganddi beidio â mynd i brifysgol wedi iddi adael ysgol. Ymunodd gydag adran TG Powys tua 10 mlynedd yn ôl fel gweinyddwr.

“Ro’n i wir yn mwynhau deinameg y tîm,” meddai. “Ro’n i’n gallu gwneud mwy a mwy oedd yn gysylltiedig gyda TG heb sylweddoli hynny. Cyn gynted ag y dechreuais i fy ngradd-brentisiaeth, dechreuodd pob olwyn droi, a disgynnodd popeth i’w le.”

Fel dau weithiwr proffesiynol prysur, mae hyblygrwydd y radd-brentisiaeth yn rhywbeth oedd yn apelio at y ddau gydweithiwr. Tuag at ddiwedd y radd, fe wnaeth Nikki hyd yn oed gael amser i symud tŷ rhwng astudio a gwaith.

Mae’n llawer mwy na chodio

Sam

Mae Nikki a Sam (uchod) ill dau yn pwysleisio bod eu dysgu wedi mynd â hwy y tu hwnt i ddim ond datblygu meddalwedd, a’i fod wedi bod o gymorth i’w paratoi ar gyfer realiti gweithio fel gweithwyr TG proffesiynol. 

“Roedd y modiwl cyntaf wedi’i seilio ar lawer o hunan-adfyfyrio, “ meddai Nikki. “Doedd hyn ddim yn rhywbeth ro’n i’n edrych ymlaen ato yn y lle cyntaf, ond tuag at ddiwedd y radd, dyma’r un peth ro’n i’n edrych ymlaen ato fwyaf. Gwnaeth i mi deimlo’n fwy cyfforddus wrth fod yn hunan-feirniadol, gan adfyfyrio ar yr hyn ro’n i wedi’i wneud a sut rwy’n gwneud pethau ar hyn o bryd.”

Mae Sam yn cytuno. 

“Un peth rydych chi’n cael eich dysgu yw’r syniad o ddysgu parhaus,” eglura. “Ro’n i’n meddwl y byddai popeth yn dechnegol, er enghraifft, dim ond siarad am godio. Ond mae yna syniadau ynghylch dysgu sut i ddysgu eich hun, darllen dogfennaeth ac ehangu eich gwybodaeth. Rydym wedi dysgu sut i ryngweithiol gyda rhanddeiliaid a deall eu hanghenion yn well.”

Buddsoddi mewn talent

I Jon fel rheolwr tîm, roedd y radd-brentisiaeth yn ffordd wych o fuddsoddi mewn staff yn hytrach na chwilio y tu allan i’r sefydliad.

“Mae datblygwyr yn arbennig o anodd i’w canfod,” eglura, “yn arbennig felly mewn ardaloedd gwledig fel canolbarth Cymru. Gall hyn wneud recriwtio’n gostus iawn neu ein gwneud ni’n fwy dibynnol ar allanoli gwaith.

“Mae gennym nawr ddau fyfyriwr arall ar y rhaglen gradd-brentisiaeth. Yn y cyfamser, mae Nikki a Sam ill dau wedi symud ymlaen i rolau uwch, ac maent yn mentora eraill. Mae hynny’n golygu bod yr holl dîm wedi elwa o’r ffaith ein bod wedi buddsoddi yn ein doniau lleol.”

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws