‘Nyrsys yw dyfodol ein gwasanaeth iechyd’ medd y Brifysgol Agored yng Nghymru

Josh and Katie

Cyn i Ddiwrnod Rhyngwladol y Nyrsys 2025 gael ei gynnal, buom yn siarad â dau o raddedigion y Brifysgol Agored yng Nghymru sydd wedi graddio mewn nyrsio.

Mae Josh, sydd â gradd mewn nyrsio, yn dod o dde Cymru:

“Wrth dyfu lan, roeddwn i wastad eisiau gwneud swydd a fyddai’n helpu pobl eraill. Dyma fy angerdd. Rydw i’n mwynhau helpu eraill, dyna sy’n fy ngwneud i’n hapus,” meddai.

“Pan ddechreuais yn y rôl yn 18 oed, yn syth o’r ysgol, cefais flas mawr ar y gwaith. Roeddwn i’n gweithio i’m bwrdd iechyd lleol fel gweithiwr cymorth gofal iechyd ochr yn ochr ag astudio, felly bu modd imi ennill gradd tra’r oeddwn i’n dal i ennill cyflog byw.”

Ers 2018, mae’r Brifysgol Agored wedi cyflwyno gradd nyrsio, a ariennir yn llwyr, i fyfyrwyr ledled Cymru. Mae gan y Brifysgol Agored bartneriaethau gyda phob bwrdd iechyd a hefyd gyda chwe sefydliad annibynnol. Mae’r rhaglen yn galluogi cynorthwywyr gofal iechyd i astudio’n hyblyg ar gyfer gradd nyrsio tra’n parhau i weithio mewn ysbyty neu gartref gofal lleol.

Mae’r cwrs yn ymdrin â’r pedwar maes sy’n perthyn i nyrsio, sef: oedolion; iechyd meddwl; anableddau dysgu; a phlant a phobl ifanc.

Mae Katie hefyd yn dod o dde Cymru.

“Drwy gydol fy amser fel myfyriwr, fe wnes i fagu angerdd am nyrsio iechyd meddwl oedolion, ac roeddwn i eisiau dangos y gall cleifion fyw bywydau normal yn y gymdeithas,” meddai.

“Fuaswn i ddim wedi gallu dilyn fy ngradd nyrsio heb y Brifysgol Agored. Bu modd imi weithio, ennill cyflog ac astudio. Cefais yr hyder i gamu ymlaen o fewn y bwrdd iechyd a chyrraedd lle ydw i heddiw.”

Dr Linda Walker sy’n arwain rhaglen gradd nyrsio y Brifysgol Agored yng Nghymru.

“Mae Josh a Katie wedi elwa ar allu astudio am radd nyrsio ar yr un pryd ag ennill cyflog a chael profiad ymarferol fel cynorthwywyr gofal iechyd,” meddai.

“Gwych iawn yw gweld eu bod yn camu ymlaen yn eu gyrfaoedd, a’u bod yn annog eraill i ystyried dilyn gradd gyda’r Brifysgol Agored.

“Eleni, y thema ar gyfer diwrnod rhyngwladol y nyrsys yw ein nyrsys, ein dyfodol. Bydd yn rhoi cyfle inni ddathlu’r cyfraniad gwych a wna graddedigion nyrsio at ein gweithlu. Os ydym am sicrhau dyfodol y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, mae hi’n hanfodol inni annog nyrsys y genhedlaeth nesaf i gyrraedd eu potensial, fel y gwnaeth Josh a Katie.”


Diddordeb mewn bod yn nyrs?

I fod yn nyrs, byddwch angen gradd. I astudio gyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru, bydd angen ichi fod yn gweithio fel cynorthwyydd gofal iechyd, naill ai gyda bwrdd iechyd neu ddarparwr annibynnol cydnabyddedig. Wrth astudio gyda ni, gallwch ddysgu mewn ffordd hyblyg a chydbwyso eich gwaith â’ch astudiaethau.

Dysgwch fwy

Nurse with patient

Help ar gyfer penderfynu ai nyrsio yw’r yrfa iawn i chi            

Nurse with patient

Mae’r cwrs rhad ac am ddim hwn ar OpenLearn – sef So you want to be a nurse? A brief introduction to nursing – yn cynnig trosolwg o’r hyn y mae nyrsio yn ei olygu. Gan ganolbwyntio ar nyrsio yn y DU yn benodol, ond gan edrych hefyd ar nyrsio mewn cyd-destun byd-eang, cewch ddysgu am y pedwar maes sy’n perthyn i nyrsio yn y DU, beth yw natur yr hyfforddiant, a’r nodweddion sy’n perthyn i nyrsys gwych.

Dysgwch fwy

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws