Mae angen i brifysgolion addasu i ymdopi â heriau deallusrwydd artiffisial, medd academydd y Brifysgol Agored yng Nghymru

Person mewn cot labordy yn edrych i mewn i ficrosgop

Bydd llyfr newydd a gynhyrchwyd gan grŵp o academyddion y Brifysgol Agored yn archwilio sut y gall prifysgolion gefnogi myfyrwyr i ddatblygu, yn sgil cyfloedd a heriau sy'n gysylltiedig â deallusrwydd artiffisial. 

Cyhoeddir Academic Conduct and Integrity: Research and Practice in Higher Education yn ystod y Gwanwyn 2026 gan Scottish Universities Press a bydd ar gael am ddim.

Ymhlith yr awduron mae Dr Richard Marsden, Deon Cyswllt yng Nghyfadran y Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol Agored, a hanesydd wedi’i leoli yn y Brifysgol Agored yng Nghymru.

'Bydd y llyfr newydd hwn yn trafod y ffordd ddiweddaraf o feddwl am sut i helpu myfyrwyr prifysgol i ddefnyddio ffynonellau ac ysgolheictod mewn ffyrdd moesegol, gan osgoi peryglon llên-ladrad,' esbonia Richard. 'Daw ar adeg pan fo datblygiad arwyddocaol deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol yn sbarduno newid sylweddol ar draws y sector addysg. Mae'r casgliad yn dwyn ynghyd arbenigwyr o bedwar ban byd i fyfyrio ar themâu o bwys fel cynllunio asesiadau, gwerthoedd myfyrwyr, polisi cyhoeddus ac wrth gwrs heriau a chyfleoedd yn sgil deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol ac i rannu enghreifftiau o'r hyn y mae prifysgolion ac athrawon AU yn ei wneud yn ymarferol.'

Wythnos Ymchwil Agored

Ddydd Iau, Mawrth 27, bydd Richard yn trafod y llyfr mewn gweminar gyda Dominique Walker a Paul Clarke o Scottish Universities Press - gwasg nid-er-elw sy'n cael ei rheoli gan 19 o lyfrgelloedd academaidd, gan gynnwys y Brifysgol Agored. Yn y sesiwn, bydd y panel yn archwilio'r maes cyhoeddi agored, y broses o gyhoeddi llyfr mynediad agored, a sut mae Ymddygiad Academaidd ac Uniondeb: Ymchwil ac Ymarfer mewn Addysg Uwch wedi'i gynhyrchu.

Cofrestrwch ar gyfer Open Access Book Publishing gyda Scottish Universities Press yma

Mae'r weminar yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau a gynhelir gan y Brifysgol Agored ar gyfer Wythnos Ymchwil Agored (24-28 Mawrth). Ar hyd yr wythnos, bydd academyddion a gwesteion y Brifysgol Agored yn siarad am ddata sydd ar gael yn agored, llwyfannau gwyddoniaeth y dinesydd, a sut y gall arferion ymchwil ddod yn fwy agored.

Dr Richard Marsden

Ar yr un diwrnod, bydd y Brifysgol Agored yng Nghymru yn cynnal diwrnod ymchwil wyneb yn wyneb yn ei bencadlys yng Nghaerdydd. Yn y digwyddiad, bydd academyddion y Brifysgol Agored yn arddangos rhai o'u prosiectau a'u canfyddiadau diweddaraf i gynulleidfa o bob rhan o gymuned ymchwil Cymru. Bydd y rhain yn cynnwys staff o brosiect treftadaeth cymunedau Cymru REACH, menter cyfnewid polisi cymharol pedair gwlad y DU ac Iwerddon, PolicyWISE, a rhaglen heriau Cymdeithasol Agored y Brifysgol Agored.

'Mae'r Brifysgol Agored yn defnyddio ymchwil i drawsnewid bywydau ar draws pedair gwlad y DU a ledled y byd,' meddai trefnydd y digwyddiad, Sarah Roberts o'r Brifysgol Agored yng Nghymru. 'Rydyn ni wedi llunio'r digwyddiad hwn i ddangos y cyfraniad y mae ein hymchwil yn ei wneud, ond hefyd faint rydym yn dibynnu ar bartneriaid allanol ledled Cymru i weithip gyda ni er mwyn cael traw effaith ar heriau cymdeithasol. Rydyn ni bob amser yn awyddus i glywed gan sefydliadau sydd â diddordeb mewn gweithio gyda ni i rannu gwybodaeth ac arbenigedd, felly rydyn ni'n gobeithio y bydd yr arddangosfa hon yn arwain at berthnasoedd newydd cyffrous.’

Cyhoeddir Academic Conduct and Integrity: Research and Practice in Higher Education yn ystod gwanwyn 2026. Fe’i golygwyd gan Jessica Evans, Richard Marsden, Jackie Musgrave, Klaus-Dieter Rossade, a Sophie Stansfield o'r Brifysgol Agored 

Request a prospectus

Explore our qualifications and courses by requesting one of our prospectuses today.

Request prospectus