Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn gweithio gydag Undeb Rygbi Cymru (WRU) i asesu effaith ehangach un o’i rhaglenni yn ysgolion Cymru.
Mae Rhaglen hwb Undeb Rygbi Cymru (WRU) yn hyrwyddo rygbi, gan gynyddu cyfranogiad, sgiliau, gweithgarwch ac angerdd o fewn y gêm. Ar hyn o bryd mae’r rhaglen yn gweithio gyda 95 o sefydliadau addysgol ledled Cymru, a’r mwyafrif o’r rhain yn ysgolion.
Bwriada ymchwilwyr y Brifysgol Agored weithio gyda 25 o ysgolion ledled Cymru i werthuso sut mae rygbi yng Nghymru, yn ogystal â chymdeithas ac iechyd pobl, yn elwa o’r rhaglen Hwb.
Roedd hi’n wych cael rhannu fy syniadau am y gêm er mwyn i fwy o bobl gael cymryd rhan.
Disgybl blwyddyn 8, Hwb genethod Dunvant Dragons
‘Mae’r Brifysgol Agored yn bartner sy’n ceisio deall pa effaith mae’r rhaglen wedi’i chael dros nifer o flynyddoedd,’ eglurodd Paul Carlin o’r Brifysgol Agored. ‘Gall y Brifysgol Agored, sy’n sefydliad academaidd, ddod â chywirdeb a chadernid i’r gwerthusiad.’
Nod yr ymchwil hwn yw rhoi arweiniad i’r Hwb ar yr hyn sy’n gweithio, a sut y gallent ddatblygu’r rhaglen yn y dyfodol.
‘Roedd hi’n wych cael rhannu fy syniadau am y gêm er mwyn i fwy o bobl gael cymryd rhan,' meddai disgybl lwyddyn 8 o Hwb genethod Dunvant Dragons.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw