Fel rhan o Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2025, buom yn siarad ag un o’n prentisiaid gradd sy’n astudio i fod yn beiriannydd meddalwedd, tra’n gweithio i un o gyflogwyr mwyaf adnabyddus Cymru.
Ymunodd Emma o gymoedd De Cymru ag Admiral 11 mlynedd yn ôl. Dechreuodd weithio'n uniongyrchol gyda chwsmeriaid, cyn gwneud cais am rôl fewnol fel is-ddadansoddwr profi. Yn 2021, cofrestrodd fel prentis gradd, gan astudio Peirianneg Meddalwedd Cymhwysol wrth barhau i weithio yn adran TG y cwmni.
‘Peiriannydd profi awtomatiaeth ydw i,’ meddai Emma, ‘sy’n golygu fy mod yn ysgrifennu cod i brofi meddalwedd ac yna’n gwneud rhywfaint o brofion â llaw. Fy mhrif swydd yw gweithio’n agos gyda pheirianwyr ac edrych ar y meddalwedd y maent wedi’i greu. Chwiliaf am ddiffygion a bygiau cyn iddo gael ei ryddhau i’r amgylchedd er mwyn i bobl, y defnyddwyr terfynol, ei ddefnyddio.’
‘Yr hyn rwy’n ei fwynhau am fy rôl yw fy mod yn hoffi cymryd pethau’n ddarnau a’u rhoi yn ôl at ei gilydd, felly rwy’n hoffi deall sut mae pethau’n gweithio. Rydw i eisiau bod yn rhan o’r darlun ehangach, felly rydw i eisiau bod yn rhan o gynhyrchu meddalwedd da i bobl ei ddefnyddio.’
Mae prentisiaeth gradd y Brifysgol Agored yn helpu cwmnïau i uwchsgilio eu staff, wrth iddynt astudio tuag at radd, ennill cyflog a chael profiad. Mae’r brentisiaeth gradd yn cael ei hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru, sy’n golygu nad oes ffioedd cwrs i’r myfyriwr na’u cyflogwr.
Er fod swyddfa Emma, y Tŷ Admiral eiconig, yng nghanol Caerdydd, mae’n gweithio o adref am ran o’r wythnos. Mae’r wlad o’i chwmpas mewn gwrthgyferbyniad llwyr i ganol y brifddinas, sy’n rhoi cyfle iddi dreulio rhan o’i diwrnod ym myd natur.
‘Bydda i’n dechrau fy niwrnod wrth fynd â’m ci am dro yn yr awyr agored ym myd natur er mwyn cael ffresni’ eglurodd Emma. ‘A wedyn dwi’n gwneud cwpl o oriau o astudio fel arfer, ac yna allan eto yn y goedwig gyda’r ci ar fy nghinio, dim ond i drio dorri diwrnod i fyny – cael ychydig o therapi gwyrdd! Gyda hyblygrwydd y Brifysgol Agored, rwy’n gallu rhoi fy astudiaethau i lawr a dod yn ôl atynt gyda’r nos.’
‘Mae’r Brifysgol Agored yn fy nghefnogi gyda thiwtor ymarfer. Mae gen i sesiynau un i un gyda hi bob chwe wythnos lle rydyn ni'n dal i fyny a thrafod sut rydw i'n dod ymlaen, ac mae hi'n gofyn i mi a oes angen unrhyw gefnogaeth arnaf. Gallaf e-bostio nhw ar-lein ac maen nhw’n ymateb gydag unrhyw help y gallant ei gynnig.’
‘Dim ond am rai misoedd roeddwn i’n bwriadu bod yma fel swydd dros dro,’ eglura Emma. ‘Ond 11 mlynedd yn ddiweddarach dwi dal yma. Mae'r cwmni wedi rhoi cefnogaeth ddiwyro i mi ym mhopeth rwy wedi gwneud. Rydw i wedi gwneud llawer o fy ffrindiau gorau i Admiral, hyd yn oed yn yr holl adrannau gwahanol, ac rwy’n eu cyfri nhw ymhlith fy ffrindiau gorau hyd at heddiw.’
Mae Marcus, rheolwr Emma, yn ei chanmol hi a’r ymroddiad y mae hi wedi’i ddangos wrth ddatblygu ei hun.
‘Mae’n wych ei gweld yn dod o rôl mynediad a symud ymlaen i mewn i rôl dechnegol awtomeiddio,’ meddai. ‘Gallaf weld y sgiliau sy’n dod cwrs hefyd. Y manteision i ni yw ein bod yn buddsoddi yn ein pobl ac rydym yn cael elw o hynny.’
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw