Mae cronfa newydd gan y Brifysgol Agored wedi rhoi cymorth ariannol i gefnogi dechreuwyr busnes ar draws y DU. Mae’r gronfa £25,000 ar gael i gynorthwyo entrepreneuriaid newydd sydd ag anableddau i ddechrau eu busnesau. Ymysg y deuddeg i hawlio’r grantiau oedd dau fyfyriwr y Brifysgol agored o Gymru, Emma a Christopher.
Derbyniodd Emma, myfyriwr Seicoleg, y grant syniad cynnar ar gyfer ei chynllun i ddarparu adnoddau ysgolion cynradd i wella llesiant disgyblion. Bwriad ei syniad yw gwella gallu myfyrwyr i ddelio â newidiadau, megis pontio.
Derbyniodd Chris, sydd hefyd yn astudio Seicoleg y grant cam syniad ar gyfer ei syniad busnes i gynnig hyfforddiant i bobl sydd gydag ADHD.
Ar ôl derbyn diagnosis ADHD yn 40 oed, penderfynodd Chris ddysgu rhagor am ei gyflwr. Defnyddiodd blatfformau fel YouTube i ddod o hyd i adnoddau a’i gynorthwyodd i gael gwell dealltwriaeth am ei ddiagnosis a’r symptomau oedd wedi’u profi ond nad oedd yn eu deall cyn hynny.
Nod yr Open Business Creators yw creu’r gymuned ddysgu entrepreneuraidd fwyaf yn y DU a’r fwyaf cynhwysol ar gyfer y rheiny sy’n awyddus i ddechrau neu dyfu eu busnes.
Dyma ysbrydolodd ei syniad busnes newydd. Ei fwriad yw cynnig hyfforddiant un-i-un i bobl sydd â’r un cyflwr, ynghyd â fideos ac adnoddau eraill ynghylch y pethau mae ef wedi eu dysgu am ADHD mewn cyd-destun ehangach. Roedd yr adnoddau o fudd iddo pan dderbyniodd ei ddiagnosis, a hoffai allu cynnig y cymorth hwn i eraill.
Dywedodd Chris, ‘Gan ddefnyddio fy mhrofiadau o fyw gydag ADHD a fy nghymwysterau mewn cyfryngau, addysgu, a seicoleg, fy mwriad yw sefydlu a thyfu darpariaeth hyfforddiant ADHD sy’n cael ei gefnogi gan ddeunydd cyfryngau cymdeithasol sy’n llawn gwybodaeth ac yn ddifyr,’. ‘Boed unigolyn yn cofrestru i fy ngwasanaeth hyfforddiant un-i-un neu’n mwynhau fy nghynnwys ar-lein, rwyf eisiau i eraill allu teimlo’n rhan o daith lle rydym yn gwneud synnwyr o’n trafferthion a dod o hyd i’r cryfderau unigryw a gwerthfawr sydd gan bobl ag ADHD.
Dechreuodd Chris astudio gyda’r Brifysgol Agored fel myfyriwr rhan amser yn ystod y pandemig yn 2020.
‘Cyn fy astudiaethau gyda’r Brifysgol Agored, astudiais radd mewn prifysgol 20 mlynedd yn ôl, a mynychais y coleg. Ychwanegodd Chris, ‘Yn sicr, dyma’r profiad addysg gorau rwyf wedi ei gael’. ‘Mae gallu gwylio’r tiwtorialau wedi’u recordio pryd bynnag sy’n gyfleus mor ddefnyddiol, yn ogystal â’r amgylchedd dysgu rhithiol, yn enwedig gyda niwroamrywiaeth gan eich bod yn gallu gwneud y mwyaf o’r cyfle. Roeddwn yn ffodus o gael tiwtoriaid gwych hefyd.’
Wrth iddo ganolbwyntio ar ei flwyddyn olaf o astudiaethau, mae’n frwdfrydig iawn dros ddechrau ei fusnes. Mae eisoes yn cynllunio’r ffyrdd gorau i ddefnyddio ei grant ac ar hyn o bryd yn ystyried partneriaid a gweithgareddau allweddol. Ar ôl gorffen ei astudiaethau, ei fwriad yw cofrestru’r busnes yn syth.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw