Y Brifysgol Agored yng Nghymru yn lansio maniffesto ar gyfer etholiad y Senedd 2026

Crowd of OU graduates

Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru heddiw wedi lansio ei maniffesto ar gyfer etholiad y Senedd 2026, sy’n nodi gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer addysg uwch hyblyg, hygyrch a chynaliadwy.

Mae’r maniffesto’n galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i weithredu i sicrhau bod dysgu rhan-amser a hyblyg ar gael i bawb yng Nghymru, yn enwedig i’r rhai o gymunedau sydd wedi wynebu rhwystrau i addysg yn draddodiadol.

Ers 2014/15, mae cyllid ar gyfer addysg uwch hyblyg wedi disgyn yn sylweddol mewn termau real. Serch hynny, mae miloedd yn fwy o ddysgwyr ledled Cymru wedi dewis dechrau astudio gyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru. Mae hyn yn dangos fod galw am astudio sy’n gallu cyd-fynd â gwaith, teulu, a chyfrifoldebau eraill. Mae llawer o’r myfyrwyr hyn wedi ymuno â’r Brifysgol o rai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru neu heb unrhyw gymwysterau blaenorol.

Mynd i’r afael â’r her gyllido

Fodd bynnag, mae’r Brifysgol yn rhybuddio y bydd ei gallu i gynnal y lefel hon o ddarpariaeth yn dod dan straen os nad yw Llywodraeth nesaf Cymru’n mynd i’r afael â’r her gyllido a sicrhau fod addysg uwch hyblyg yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arni.

Mae’r maniffesto a gyhoeddwyd heddiw yn amlinellu nifer o flaenoriaethau i Lywodraeth nesaf Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • gwarchod cymorth cynhaliaeth teg i fyfyrwyr rhan-amser,
  • gwella cyllid ar gyfer darpariaeth rhan-amser, a
  • chodi’r cap ar fenthyciadau ffioedd rhan-amser. 

Mae hefyd yn pwysleisio sut y gall addysg uwch hyblyg helpu gyrru twf economaidd, datblygu sgiliau hanfodol, ac ymdrin â diffygion gweithlu mewn sectorau fel addysgu, nyrsio, a gofal cymdeithasol.


 

Datgloi potensial Cymru

Economi ffyniannus, cymunedau llwyddiannus, a dyfodol diogel

Ein blaenoriaethau i Lywodraeth nesaf Cymru

Lawrlwytho'r maniffesto


Newid bywydau, cryfhau’r economi, ac uno cymunedau

Wrth gyhoeddi’r maniffesto, dywedodd Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru, Ben Lewis:

“Mae’r maniffesto rydym yn ei gyhoeddi heddiw yn nodi cyfres glir o gamau y gall Llywodraeth nesaf Cymru eu cymryd i sicrhau bod pobl o bob oed a chefndir yn gallu cael mynediad at ddysgu sy’n cyd-fynd â’u bywydau, yn datblygu eu sgiliau, ac yn agor drysau newydd.

“Rydym yn gwybod fod astudio hyblyg yn newid bywydau, yn cryfhau’r economi, ac yn helpu i uno cymunedau. Rydym hefyd yn gwybod fod y ffordd y mae pobl eisiau dysgu yn newid – maen nhw’n galw am fwy o hyblygrwydd, nid llai.

“Dyna pam mae angen i Lywodraeth nesaf Cymru weithio gyda ni i sicrhau ein bod yn gallu parhau i gynnig y cyfleoedd trawsffurfiol hyn i bobl ledled Cymru.

“Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd i brifysgolion. Mae gan Lywodraeth nesaf Cymru gyfle i weithredu’n benderfynol i fynd i’r afael â’r heriau rydym yn eu hwynebu, ac yn ystod y misoedd i ddod, byddwn yn gofyn i’r holl bleidiau roi hyblygrwydd wrth galon eu cynlluniau.”

Mae’r maniffesto hefyd yn galw am wneud addysg uwch hyblyg yn rhan allweddol o fentrau sgiliau cenedlaethol, gan gefnogi dysgu gydol oes a helpu pobl i barhau i ddatblygu eu sgiliau drwy gydol eu bywydau.

Cliciwch yma i ddarllen y maniffesto llawn.

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws