Noder: Mae ein seremonïau yng Nghymru yn llawn, ac mae'r rhestr aros bellach ar gau.
Mae’r lleoliad oddi ar gyffordd 24 ar yr M4. P’un a ydych yn teithio ar drên neu’n gyrru, gweler y wybodaeth ar wefan ICC, gan gynnwys manylion am eu cyfleusterau parcio ar y safle.
Dyma olygfa 360 o fynedfa ICC fel y gallwch ymgyfarwyddo â’r lle.
Cliciwch yma i weld y fersiwn hygyrch o’r cynnwys rhyngweithiol hwn
Rydym yma i’ch helpu i gael y gorau o’ch profiad. Isod, fe welwch atebion cyflym i’r cwestiynau yr ydym yn eu clywed amlaf. Os na allwch ddod o hyd i’r hyn yr ydych yn chwilio amdano, cysylltwch â’n tîm yn [email protected]. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen we’r seremonïau.
Y lle cyntaf y dylech fynd ar ôl cyrraedd y lleoliad yw i gofrestru yn y brif neuadd. Oddi yno, gall ein gwirfoddolwyr eich mewngofnodi a rhoi eich tocynnau gwesteion i chi.
Gallant eich helpu gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych, a gallant roi gwybodaeth i chi am yr hyn i’w wneud nesaf.
Mae’r gynau yn y brif neuadd ar ôl cofrestru.
Ar ôl eich seremoni, bydd angen i chi ddychwelyd eich gynau yn y derbyniad diodydd dathlu.
Mae yna ystafell dawel yn ystafell gyfarfod 8 ar y llawr gwaelod. Mae ar y dde, heibio i ddrysau’r awditoriwm.
Mae yna ystafell aml-ffydd ar gael ar y llawr gwaelod. Gellir dod o hyd i hon yn yr awditoriwm wrth ymyl y ddesg wybodaeth.
Oes - mae stiwdios ffotograffiaeth broffesiynol ar gael yn y brif neuadd. Cewch eich cyfeirio yno ar ôl cofrestru a gynau.
Os nad ydych wedi archebu ond y byddech yn hoffi cael rhai lluniau, bydd y tîm yn fodlon trefnu i chi gael eu tynnu ar y diwrnod.
Mae un cyfleuster newid babanod, rhwng ystafell gyfarfod 7 ac 8, heibio’r awditoriwm.
Croeso i fabanod yn yr awditoriwm, ond yn anffodus ni chaniateir coetsis na phramiau. Fodd bynnag, os bydd angen i chi adael y seremoni gallwch barhau i’w gwylio ar y sgriniau yn y Brif Neuadd (ardal Grad Fest).
Mae’r seddi wedi eu neilltuo o flaen llaw. Os nad ydych wedi gofyn fel arall oherwydd anghenion ychwanegol, byddwch yn eistedd gyda’r graddedigion eraill a bydd eich gwesteion yn eistedd rhywle arall yn yr awditoriwm.
Os aiff eich gwesteion at ddrysau’r awditoriwm, bydd aelod o dîm ICC yn helpu i’w cyfeirio at eu seddi.
Gallwch roddi unrhyw docynnau heb eu defnyddio i staff y Brifysgol Agored ar y ddesg ymholiadau, a all eu pasio i raddedigion eraill.
Yn gyffredinol, nid ydym yn cynnig ad-daliadau am ein tocynnau seremoni. Fodd bynnag, mae modd i chi gysylltu â’r tîm seremonïau ar [email protected] i weld os yw hyn yn bosibl ar gyfer eich amgylchiadau.
Dylech fod eisoes wedi derbyn eich tystysgrif yn y post. Os nad ydych, cysylltwch â’r tîm Seremonïau ar [email protected].
Bydd, a byddwch yn derbyn manylion sut i wylio yn yr wythnosau’n dilyn eich seremoni.
Bydd fideo’r seremoni yn ymddangos ar ein Sianel YouTube OULife o fewn yr wythnosau’n dilyn y seremoni.
Os nad ydych yn dymuno cael eich ffilmio, gadewch i aelod o staff y Brifysgol Agored wybod ar ddesg ymholiadau. Byddant yn cymryd eich manylion ac yn gwneud y trefniadau angenrheidiol i sicrhau na fydd eich llun yn cael ei uwchlwytho ar wefan y lluniau swyddogol, a’ch bod yn cael eich golygu o’r fideo YouTube.
Bydd ein tîm cofrestru yn gwneud eu gorau i helpu gydag unrhyw gwestiynau ar y diwrnod.
Os yw eich gwesteion yn hwyr yn cyrraedd, gallwch adael eu tocynnau gyda’r tîm er mwyn iddynt eu casglu pan maent yn cyrraedd.
Os yw eich ymholiad ynghylch ynganiad eich enw ar gyfer y seremoni, gallwch drafod hyn gyda rhywun ar y ddesg gofrestru.
Os yw eich ymholiad ynghylch gwesteion ag anghenion ychwanegol, gadewch i’n tîm cofrestru wybod a byddant yn gwneud eu gorau i ddarparu ar eu cyfer.
Cewch, cewch adael yr awditoriwm a dychwelyd pan ydych yn barod petai angen.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw