
Astudiwch y TAR rhan-amser neu gyflogedig yn y Brifysgol Agored yng Nghymru.
Ymunwch â ni ar 12 Mai am noson agored ryngweithiol ar-lein wrth i ni esbonio sut y gall rhaglen arloesol TAR y Brifysgol Agored yng Nghymru eich helpu i gyflawni eich breuddwyd o fod yn athro.
Yn y digwyddiad ar-lein, bydd ein tîm TAR arbenigol yn esbonio mwy am ein llwybrau TAR cyflogedig a rhan-amser unigryw sydd wedi'u cynllunio i ganiatáu ichi astudio o amgylch eich bywyd ac ennill wrth ddysgu. Mae'r ddau lwybr yn eich galluogi i gydbwyso astudio â'ch ymrwymiadau presennol fel rhianta, gofalu a gweithio.
Disgwyliwch sesiwn ryngweithiol lle gallwch sgwrsio â'n tîm TAR cyfeillgar a chael atebion i'ch cwestiynau am gyllid, lleoliadau ysgol, gofynion mynediad a mwy. Byddwch hefyd yn clywed gan ein darpar athrawon presennol wrth iddynt siarad am eu profiadau.
Cofrestrwch yma
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am y rhaglen.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw