A ydych wedi ystyried dod yn Hyrwyddwr OpenLearn?
Rhaglen eirioli gan y Brifysgol Agored yng Nghymru yw Hyrwyddwyr OpenLearn. Rydym yn cynnig hyfforddiant rhad ac am ddim i staff a gwirfoddolwyr ar gyfer sectorau penodol er mwyn eich galluogi i gefnogi’r bobl y gweithiwch gyda nhw i gael gafael ar gyfleoedd dysgu ffurfiol ac anffurfiol trwy gyfrwng y Brifysgol Agored.
Bydd yr hyfforddiant yn arddangos gwefan OpenLearn, ein cartref ar gyfer astudio anffurfiol rhad ac am ddim lle cynigir mwy na 1000 o wahanol adnoddau, fel cyrsiau byr, erthyglau, gemau rhyngweithiol a fideos. Hefyd, byddwn yn cynnig gwybodaeth ynglŷn â sut i gynorthwyo unigolion sy’n dymuno cymryd y cam nesaf tuag at astudio’n ffurfiol gyda’r Brifysgol Agored.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw