Ymunwch â’r gymuned ar-lein o fyfyrwyr a graddedigion sydd eisiau cael eu hysbrydoli a chael cyfle i ddysgu, cwestiynu a rhwydweithio. Bydd y pum diwrnod yn cynnwys cymysgedd o weminarau dyddiol a sesiynau Holi ac Ateb byw, yn cael eu cyflwyno gan arbeniwyr ac entrepreneuriaid sy’n rhoi i chi’r elfennau allweddol sydd eu hangen i helpu eich syniadau i fod yn llwyddiannus, o ymchwil a marchnata i lif arian a chyllid.
Mae’r digwyddiad am ddim i’w fynychu ar gyfer y rhai sy’n astudio neu sydd wedi astudio mewn Coleg neu Brifysgol yng Nghymru a bydd yn cael ei ffrydio’n fyw yn uniongyrchol i chi o gyfforddusrwydd eich cartref.
Os nad ydych chi wedi cofrestru eisoes, gwnewch hynny yma i ymuno â’r nifer cynyddol o fyfyrwyr a graddedigion Addysg Uwch ac Addysg Bellach sy’n cael cefnogaeth i ddatblygu a dilysu eu syniadau busnes.
Ar ôl i chi gofrestru, byddwch yn cael amserlen lawn y digwyddiad, gan gynnwys manylion am y cyfarfod ar-lein cyn y digwyddiad, cystadlaethau dyddiol a’r dathliad cerddorol byw ar ddiwedd yr wythnos.
Hefyd byddwch yn cael gwahoddiad i ymuno â grŵp Facebook cymuned Wythnos Cychwyn Busnes yr Haf lle gallwch gymysgu, rhannu syniadau a gwybodaeth, a rhwydweithio gyda chydfyfyrwyr a graddedigion ar eu siwrnai sefydlu busnes.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw