Gweithdai hwyliog a chyfeillgar mewn ffotograffiaeth.
Mae'r sesiynau AM DDIM ac yn agored i bobl ag unrhyw lefel o brofiad. Ar gyfer unigolion dros 16 oed.
Bydd yr un gweithdai’n cael eu cynnal mewn gwahanol leoedd ar amrywiaeth o ddyddiadau er mwyn rhoi digon o ddewis i chi.
Cewch archebu lle ar gymaint o’r sesiynau ag y dymunwch. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at eich cyfarfod chi.
I archebu eich lle ar y gweithdai anfonwch e-bost atom drwy partneriaethau-cymru@open.ac.uk neu ffoniwch Stacey ar 029 2167 4585
Ffotograffiaeth
Dewch i gasglu ychydig o awgrymiadau ar ddefnyddio’r camera ar eich ffôn clyfar i gipio’r byd o’ch cwmpas, yn arbennig hanes a threftadaeth eich ardal leol. Mae’n rhaid i chi ddod â’ch ffôn clyfar eich hun gyda chi ar gyfer y gweithdai hyn.
Ffotograffiaeth 1 Sadwrn 7 Mai 10:30 - 12:00
Ffotograffiaeth 2 Sadwrn 7 Mai 13:30 - 15:00
Ffotograffiaeth 3 Sadwrn 7 Mai 15:30 - 17:00
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw