Mae’n bleser gan y Brifysgol Agored yng Nghymru ac Introbiz eich gwahodd i’n seminar: Dilysrwydd Busnes: Aros ar yr ochr “iawn” i farn y bobl...a sut i osgoi sefyllfaoedd dadleuol.
Ydych chi erioed wedi cwestiynu beth sy’n gwneud eich busnes yn ddilys, neu wedi meddwl sut i dywys eich busnes drwy heriau os bydd ei ddilysrwydd yn cael ei gwestiynu? Ydych chi am aros ar yr ochr “iawn” i farn y bobl pan fyddwch yn wynebu trafferthion?
Bydd Dr Björn Claes, Uwch-ddarlithydd Rheoli Gweithrediadau yn Ysgol Fusnes y Brifysgol Agored yn eich arwain drwy’r maes academaidd hynod ddiddorol hwn, gan gyflwyno’r theori ochr yn ochr â’r agweddau ymarferol. Bydd Cathy Bryant, Uwch-gyswllt o Blake Morgan, yn sôn am ochr ymarferol rhai o’r heriau busnes hyn.
Dyma seminar a fydd yn eich ysgogi i feddwl ac yn eich galluogi i ystyried y cwestiynau cymhleth yn eich amgylchedd gwaith eich hun a rhannu eich syniadau ag eraill sydd wedi wynebu’r un problemau.
Bydd y digwyddiad hwn o ddiddordeb penodol i rai sydd mewn swyddi arweinyddiaeth ganol neu uwch, yn y sectorau cyhoeddus neu breifat, sydd â diddordeb mewn dylanwadu ar gysylltiadau mewnol ac allanol didwyll, a chynnal y cysylltiadau hynny.
Mae’r lleoedd am ddim ond nifer cyfyngedig sydd ar gael, felly archebwch cyn gynted â phosib.
Explore our qualifications and courses by requesting one of our prospectuses today.