Digwyddiad y Glas Caerdydd 2019

Dates
Saturday, September 28, 2019 - 11:00 to 15:00
Location
Clayton Hotel Cardiff, Heol Eglwys Fair, Caerdydd, CF10 1GD
Contact
Wales Events

Yr ydym yn eich gwahodd i Ddigwyddiad y Glas ar gyfer myfyrwyr y Brifysgol Agored ar 28 Medi 2019 yng Ngwesty’r Clayton.

Bydd Cynrychiolydd yr Ardal dros Gymdeithas y Myfyrwyr, Lucy Richardson, a’r Dirprwy Llywydd, Stephanie Stubbins, yn eich croesawu. Bydd hyn yn gyfle bendigedig i chi siarad â’ch Cynrychiolwyr Myfyrwyr ac i ddysgu mwy am wasanaethau’r Gymdeithas a’r gymuned.

Bydd cyfle i chi gwrdd â myfyrwyr eraill, a rhannu cyffro cychwyn eich taith astudio. Bydd staff y Brifysgol Agored yng Nghymru’n cefnogi’r digwyddiad, ac yn rhoi’r cyfle i chi siarad â Chynghorydd Addysg, Ymgynghorydd Gyrfaoedd, ac aelod o’r tîm Cefnogi Myfyrwyr.

Os gwelwch yn dda, cadwch eich lle i fynychu’r digwyddiad rhwydweithio hwn ac ymunwch â ni wrth i ni ddathlu cychwyn y flwyddyn academaidd. Darperir lluniaeth (diodydd a rhai danteithion) a bydd stondinau gwybodaeth, stondin nwyddau’r Brifysgol a nifer fawr o roddion am ddim.

Cliciwch yma i archebu lle.

Request a prospectus

Explore our qualifications and courses by requesting one of our prospectuses today.

Request prospectus