Dewch heibio am sgwrs anffurfiol ac unigol gydag un o’n cynghorwyr myfyrwyr i drafod eich amcanion astudio a’n hystod o gymwysterau.
Yn Ffair Swyddi Abertawe, gallwn sgwrsio â chi am ddatblygiad pellach a chyrsiau i’ch helpu i symud ymlaen yn eich gyrfa ddewisol.
Os ydych chi’n newydd i fyd addysg uwch, gall fod yn ddigon i'ch dychryn. Mae llawer o bethau i’w hystyried. Rhaid i chi ddewis y cwrs cywir, dod i ddeall y costau a chanfod sut i astudio ochr yn ochr â’ch ymrwymiadau eraill. Dylid ystyried y penderfyniad hwn yn ofalus, ond gallai fod yn benderfyniad a fydd yn newid eich gyrfa neu eich bywyd am y gorau
Nid oes angen trefnu apwyntiad. Yn syml, galwch heibio i gael gwybodaeth ymarferol ynghylch sut mae pethau’n gweithio, y gefnogaeth rydym yn ei chynnig a’r hyn y gallech ei gyflawni gyda’r Brifysgol Agored.
Os na allwch chi ddod i'r digwyddiad hwn neu os ydych eisoes yn fyfyriwr gyda'r Brifysgol Agored, ffoniwch ein cynghorwyr cyfeillgar am fwy o gymorth a chyngor ar 029 2047 1170 neu ewch i StudentHome
Explore our qualifications and courses by requesting one of our prospectuses today.