Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru’n falch o noddi Darlith Goffa Raymond Williams 2017 a gyflwynir gan yr Actor a’r Ymgyrchydd, Michael Sheen.
Mae Michael Sheen yn actor ac yn ymgyrchydd o Gymru sydd wedi gwneud rhai o’r cyfraniadau mwyaf croyw i drafodaethau gwleidyddol dros y blynyddoedd diwethaf.Bydd yn defnyddio’r cyfle i draddodi Darlith Raymond Williams i archwilio themâu diwylliant a hunaniaeth Cymru, ei gorffennol a’i dyfodol ac i edrych unwaith eto ar y cwestiwn a ofynnodd Williams unwaith – pwy sy’n siarad dros Gymru?
Mae’r lleoedd yn gyfyngedig felly archebwch yn gynnar i osgoi cael eich siomi.
Os na allwch fynychu’n bersonol, ond y byddech yn dal i hoffi cymryd rhan yn y digwyddiad, gallwch ddilyn yr hyn sy’n digwydd ar Twitter drwy ddefnyddhio hashnod #RWLecture2017
Explore our qualifications and courses by requesting one of our prospectuses today.